大象传媒

Santes Dwynwen neu Sant Ffolant?

  • Cyhoeddwyd
sant ffolantFfynhonnell y llun, Getty Images

Ar drothwy Ddiwrnod Sant Ffolant mae miloedd o gariadon ledled Cymru ar fin anfon cardiau cariad a chyfnewid anrhegion rhamantus.

Ond ai Santes Dwynwen neu Sant Ffolant ddylen ni fod yn ei ddathlu yma yng Nghymru? Neu efallai'r ddau?

Siaradodd Cymru Fyw gyda'r academydd Dr Rhiannon Ifans i drafod yr hanes.

Hen draddodiad

"'Dan ni'n arfer meddwl mai Santes Dwynwen ydi santes y cariadon i ni yng Nghymru, ac ein bod falle'n bradychu'n cenedl wrth edrych 'dros y ffin' at Sant Ffolant."

"Ond mewn gwirionedd un o'r Eidal oedd Sant Ffolant, ac mae pawb drwy'r byd datblygedig yn anfon cardiau ac ati ar 14eg o Chwefror, sef y diwrnod sydd wedi ei gadw er cof am Ffolant ac i feddwl yn ddwys am bethau sy'n brifo'n calonnau ni."

Dywed Rhiannon fod gwreiddiau dathlu Sant Ffolant ar Ynysoedd Prydain yn mynd n么l i oes y Rhufeiniaid.

"Pan ddaeth y Rhufeiniaid yma yn y bedwaredd ganrif fe ddaethon nhw 芒'u traddodiadau gyda nhw i Brydain. Os edrychwch chi ar ddyddiaduron Samuel Pepys (17eg ganrif) fe welwch chi eu bod nhw'n dilyn yr un arferion ag oedden nhw'n ei wneud yn Rhufain.

"Roedd Ffolant ei hun yn offeiriad yn Rhufain, a gafodd ei ddienyddio gan yr Ymerawdwr Claudius II, am ei fod yn Gristion.

"Y chwedl ydi, cyn iddo gael ei ladd tua'r flwyddyn 269, fe ddaeth y sant yn ffrindiau efo merch ceidwad y carchar lle'r oedd yn cael ei ddal. Fe roedd hi'n ddall, a chyn iddo gael ei ddienyddio dyma Ffolant yn adfer ei golwg hi. Dyma fo wedyn yn sgrifennu nodyn ffarwel iddi gan ei arwyddo 'oddi wrth dy Valentine'."

Ffynhonnell y llun, Rhiannon Ifans
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr academydd, Dr Rhiannon Ifans

"Fe gyhoeddwyd llyfr pwysig yn 1493 o'r enw Cronicl Nuremberg, a oedd yn adrodd hanes y byd. Cafodd y llyfr ei gyfieithu o Ladin i'r Almaeneg, ac mae yna lun o Sant Ffolant am y tro cyntaf yn y llyfr yma. Mae'n dweud yn y llyfr mai dyddiad yr 诺yl yw Chwefror 14eg. Felly hen draddodiad o'r Eidal yw hwn, nid Lloegr."

Roedd llenorion Seisnig yn trafod G诺yl Sant Ffolant ganrifoedd lawer yn 么l, ond does dim tystiolaeth o Gymry yn gwneud hyn tan ganrifoedd yn ddiweddarach.

"Yn Lloegr Geoffery Chaucer oedd y cyntaf mewn llenyddiaeth i gyfeirio at Sant Ffolant, tua 1372-75.

"Mae'r cyfeiriad cyntaf at Sant Ffolant yn Gymraeg y gallwn ei weld yn dod mewn ffurf cywydd gan Edward Morris o'r 17eg ganrif, ond efallai bod enghreifftiau cynt."

Cardiau neis a chardiau cas

Erbyn 19eg ganrif, roedd hi'n llawer haws i anfon llythyrau a chardiau cariad drwy'r post i nodi dydd y cariadon. Ond yn anffodus, nid datgan cariad oedd pawb yn ei wneud gyda'r cardiau yma, fel yr eglura Rhiannon Ifans.

"Os byddai rhywun yn gorffen efo'u cariad roeddent wedyn yn gallu derbyn cerdyn cas, efallai llun o ddynes hyll ofnadwy neu benillion cas a chreulon. Roedd rhai yn gyrru llyffant neu lygoden farw, neu droed tylluan yn y cardiau."

Yn yr enghraifft yma, mae merch wedi anfon llun ohoni'i hun at y bachgen i drio ei ddenu yn gariad iddi, ac mae o'n sgwennu cerdd gas yn 么l ati yn chwerthin am ben ei llun am ei bod hi mor hyll.

Y Falenten Hyll

Rwy'n diolch am eich darlun,

Y mae e'n ddarlun da;

Rwyf wedi torri'm hesgyrn

Efo Ha! Ha! Ha!

Pwy wnaeth eich darlun, Catrin,

Darlun mor dda?

Mae'n werth y byd o chwerthin,

O Ha! Ha! Ha!

Yr wyf yn fachgen gwirion,

Heblaw yn fachgen da,

Oherwydd torri'm calon

Efo Ha! Ha! Ha!

Ni thorraf byth fy nghalon

O eisiau 'ch llaw fach wen,

Ond gallaf dorri'm calon

Wrth chwerthin am eich pen.

Dyfodiad Santes Dwynwen

Roedd traddodiad Ffolant wedi dod i ben yng Nghymru erbyn dechrau'r 20fed ganrif, a daeth chwedl Dwynwen yn fwy poblogaidd yng Nghymru erbyn ail hanner yr 20fed ganrif.

Roedd ei stori hi o ddioddefaint yn ei gwneud yn addas i fod yn santes y cariadon yng Nghymru. Dechreuodd yr arferiad o yrru cardiau Santes Dwynwen yn y 1960au ond fe roedd rhai yn nodi arwyddoc芒d Dwynwen cyn hynny drwy fynd ar bererindod i Landdwyn ar Ynys M么n a gadael ychydig o arian yno.

"Tua 50 mlynedd yn 么l dyma rhyw bobl, a allai gael eu disgrifio fel caredigion yr iaith, yn dechrau gwneud cardiau Santes Dwynwen. Efallai eu bod nhw'n meddwl ar y pryd mai rhywbeth Saesneg oedd Ffolant, heb sylweddoli mai traddodiad Eidalaidd oedd o."

Ffynhonnell y llun, Loop Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ynys Llanddwyn ar Ynys M么n, man sy'n cael ei gysylltu 芒 chwedl Dwynwen

Wrth gwrs, mae dathliadau Sant Ffolant wedi cael ail wynt yng Nghymru erbyn hyn, felly cardyn ag enw pa sant arno y dylwn ni ei anfon?

"Mae 'na gardiau cyffredinol bellach sy'n lladd dau dderyn gyda un garreg efo 'Caru ti' arnyn nhw, sy'n addas ar gyfer Diwrnod Santes Dwynwen a Diwrnod Sant Ffolant. Does dim rhaid i chi ddewis rhwng y ddau ddiwrnod na'r ddau sant yn fy marn i, mae'n hollol iawn i ni ddathlu'r ddau."

  • Mae Dr Rhiannon Ifans wedi rhyddhau llyfr yn trafod hen gerddi Cymraeg Sant Ffolant: Red Hearts and Rose? Welsh Valentine Songs and Poems

Hefyd o ddiddordeb