大象传媒

Miliwn o siaradwyr: Cyhoeddi cynlluniau gweithredu 么l-16

  • Cyhoeddwyd
cymraegFfynhonnell y llun, Thinkstock

Bydd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn cyhoeddi cynllun i ddatblygu darpariaeth Cymraeg a dwyieithog yn y sectorau Addysg Bellach a Phrentisiaethau ddydd Iau er mwyn cyrraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Mae'r cynllun," medd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg, "yn gynllun uchelgeisiol."

"Mae'r Coleg yn ymfalch茂o yn ei r么l yn symbylu gwaith y Gr诺p Cynllunio a gweithio gyda chydweithwyr o'r sectorau Addysg Bellach a Phrentisiaethau i greu cynllun blaengar a fydd yn sicrhau cynnydd sylweddol yn y cyfleoedd i ddysgu a magu'r sgiliau dwyieithog angenrheidiol er mwyn llwyddo ym myd gwaith.

"Bydd angen sicrhau adnoddau addas ar draws y sectorau perthnasol os am wireddu'r uchelgais yn y blynyddoedd i ddod, a hynny yng nghyd-destun cynllunio tymor hir."

'Elfen hanfodol'

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams bod y cynlluniau ar gyfer oed 么l-16 yn garreg filltir bwysig.

"Bydd y cynllun," meddai, "yn cryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ac yn helpu i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer yr Iaith Gymraeg a nodir yn Cymraeg 2050."

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan: "Mae sicrhau bod ein pobl ifanc yn gallu cynnal a datblygu eu sgiliau Cymraeg i'w defnyddio yn y gweithle, mewn addysg, mewn sefyllfaoedd cymdeithasol a gyda eu teuluoedd yn elfen hanfodol o'n Strategaeth Iaith Cymraeg 2050.

"Mae'r cynllun gweithredu 么l-16 cyfrwng Cymraeg yn ymateb i'r nod allweddol hwn yn ein strategaeth ac yn rhoi'r cyfle inni wella'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a'r gefnogaeth i ddysgwyr."

Bydd y cynllun yn cael ei gyhoeddi yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro amser cinio.