Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Diddymu caniat芒d cynllunio ffordd osgoi Llanbedr
Bydd cais am ganiat芒d cynllunio i adeiladu ffordd newydd yn Llanbedr ger Harlech yn cael ei gyflwyno'n 么l i bwyllgor cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dilyn cais am adolygiad barnwrol.
Cafodd cais am adolygiad barnwrol ei gyflwyno gan berchennog tir gafodd ei effeithio gan benderfyniad pwyllgor cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ym mis Medi.
Penderfyniad yr awdurdod oedd caniat谩u ffordd newydd 1.5 cilomedr yn Llanbedr.
Cafodd y cais am adolygiad barnwrol ei wneud ar y sail na chydymffurfiwyd 葍'r broses briodol mewn perthynas 葍'r asesiad rheoliadau cynefinoedd - yn benodol ni chafodd yr effaith ar ardal o gadwraeth arbennig ei hystyried.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi penderfynu peidio 葍 herio'r achos ac wedi cytuno i'r llys ddiddymu'r caniat芒d cynllunio.
Unwaith bydd y llys wedi penderfynu ar yr achos bydd y cais yn cael ei ailbenderfynu gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Ymddiheuro
Dywedodd Jonathan Cawley, cyfarwyddwr cynllunio a rheoli tir Awdurdod y Parc Cenedlaethol: "Wedi adolygu'r achos, daeth yn amlwg na chydymffurfiwyd yn llwyr 葍'r broses briodol mewn perthynas 葍 deddfwriaeth yn ymwneud ag asesiadau rheoliadau cynefinoedd, ac mae'r awdurdod am ymddiheuro i'r ymgeisydd, Cyngor Gwynedd, ac unrhyw un arall a effeithiwyd.
"Rydym yn awr yn canolbwyntio ar fynd i'r afael 葍'r mater yma a chyflwyno'r cais yn 么l i'r pwyllgor nesaf sydd ar gael er mwyn dod i benderfyniad.
"Ein nod yn awr yw sicrhau y gwneir y cywiriadau a bod yr achos yn cael ei gyflwyno'n 么l i'r pwyllgor cynllunio gyda chyn lleied 葍 phosib o oedi yn y broses."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae'r cyngor yn cydnabod y gallai'r oedi a achosir gan yr her gyfreithiol i'r broses gynllunio effeithio ar gyflwyno'r ffordd fynediad i Barth Menter Llanbedr.
"Bydd angen i'r cyngor drafod y sefyllfa mewn manylder gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol gan bwyso am benderfyniad cadarn ac amserol mewn perthynas 芒'r cais cynllunio."