Peryg i 104 golli swyddi yn Amlwch petai ffatri yn cau
- Cyhoeddwyd
Mae 104 o swyddi yn y fantol wedi i Gr诺p REHAU gyhoeddi ei bod yn bosib y bydd yn rhaid iddynt gau eu ffatri yn Amlwch.
Yn 么l y cwmni, sy'n cynhyrchu nwyddau plastig, mae dirywiad wedi bod yn y farchnad wrth i bobl ddewis polypropylen yn hytrach na PVC Edgeband.
Yn 么l REHAU, maent wedi gwneud "ymdrechion sylweddol" i ddiogelu'r ffatri, gan gynnwys newid patrymau shifft gweithwyr i wella cynhyrchiant a buddsoddi mewn peiriannau newydd.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd eu bod yn wynebu'r "penderfyniad anodd" o gau'r safle yn Amlwch.
Penderfyniad i 'gryfhau'r cwmni'
Nododd y cwmni bod 70% o ostyngiad yn y galw am gynnyrch REHAU ac nad oeddent yn rhagweld y byddai hynny'n newid.
Yn ogystal, dywedodd llefarydd nad oedd modd newid y ffatri yn Amlwch i gynhyrchu nwyddau gwahanol am fod prinder lle ar y safle.
Bydd cyfnod o 90 diwrnod o ymgynghori, gyda'r cyfle i staff allu trefnu symud i swyddi eraill o fewn y cwmni.
Dywed datganiad REHAU: "Rydym yn deall bydd yr hyn sy'n cael ei ystyried yn effaith sylweddol ar ein gweithlu a'r gymuned leol, ond rydym yn credu'n gryf ei fod yn angenrheidiol er mwyn cryfhau'r cwmni a'i roi yn y lle gorau i wynebu heriau a chyfleoedd y dyfodol."
Ni fydd y cynnig hwn yn effeithio ar y ffatri sydd gan REHAU ym Mlaenau Ffestiniog.
'Clec i'r dref'
Ar raglen y Post Prynhawn ddydd Mercher, dywedodd y Cynghorydd Richard Jones o Gyngor Ynys M么n ei fod yn "wirioneddol ddigalon dros y gweithwyr" a bod cau'r ffatri yn mynd i fod yn "glec i'r dref", yn enwedig yn dilyn penderfyniad Hitachi i atal gwaith ar atomfa Wylfa Newydd yr wythnos ddiwethaf.
Dywedodd bod y cyngor yn cysylltu gyda REHAU a Llywodraeth Cymru i "wneud eu gorau" dros yr ardal.
Yn 么l Gareth Winston Roberts o Gyngor Amlwch, roedd REHAU yn "gyflogwr da, yn gwmni da i Amlwch a'r cylch" ac ychwanegodd bod colli'r ffatri yn ergyd i nifer o deuluoedd lleol.
"Rhaid i ni gael cynllun pendant gan y Cynulliad a hefyd gan Lundain," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd12 Medi 2016