大象传媒

Priodi yn 80: Byth rhy hen i ramant

  • Cyhoeddwyd
Winnie a Dai
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Winnie a Dai: Byth rhy hen i ramant

Mae Winnie James a Dai Phillips o Grymych yn dangos fod rhamant yn gallu bod yn fyw ac yn iach dim ots faint yw eich oed. Bythefnos cyn y Nadolig, fe briododd y ddau yn gyfrinachol - roedd Winnie yn 80 a Dai yn 85 mlwydd oed.

Ar 么l 20 mlynedd o fyw gyda'i gilydd, daeth y cwestiwn mawr gan Dai fel sioc i Winnie.

"O'n i 'di byw gyda'n gilydd ers 20 mlynedd ac o'dd e'n meddwl bod hi'n bryd iddo fe dynnu'i fys mas," meddai Winnie wrth ddweud yr hanes.

"'Ni wedi bod gyda'n gilydd nawr digon hir, 'wi mo'yn rhoi presant iti', wedodd e.

"Beth o'n i'n mynd i'w gael o'n i ddim yn gwybod; p芒r o f诺ts o'n i'n meddwl.

"Dyma ni'n stopio yn y siop jewellers yn Aberteifi a digwydd bod o'dd hi'n cau lawr - fi'n si诺r 'na beth denodd e, mae'n hanner Cardi chi'n gweld - o'dd s锚l 'na."

Pan ofynnodd Dai am weld y modrwyau dywedd茂o a gofyn i Winnie ddewis ei modrwy, roedd hi'n gegrwth.

"'Piga beth ti mo'yn' wedodd e' - wel o'n i bythdi cwympo.

"Dewises i beth o'n i mo'yn a wedodd e 'run man inni gal y llall nawr 'te inni gael priodi'.

"Wel Dai, wedes i, mae man gwan arnat ti heddi, si诺r o fod!"

Ar y ffordd adre awgrymodd Dai eu bod nhw'n priodi ar ddydd ei ben-blwydd yn 86 mlwydd oed ddechrau Ionawr 2019

"Gwranda 'ma," meddai Winnie, "os na fi'n priodi cyn 'ny, 'sai'n priodi dim un boi eighty-six, ond brioda i ti nawr yn 85 os ti mo'yn, so clatchia bant!"

Disgrifiad,

Stori hyfryd Winnie James a Dai Phillips.

Mae wedi cymryd dros 20 mlynedd i Dai fagu'r hyder i ofyn eto i Winnie ei briodi gan iddo wneud y tro cyntaf yn fuan ar 么l iddyn nhw gyfarfod.

Ar y pryd roedd hi'n fam weddw ifanc gyda thri o blant ar 么l iddi golli ei g诺r cyntaf pan oedd yn 42 mlwydd oed.

Roedd ei mab hynaf yn 16 oed ar y pryd a'i merch ieuengaf yn 11.

Roedd hi'n anodd iawn meddai, ond gyda help ei rhieni, fe gadwodd fferm y teulu i fynd a mynd i'r coleg i ddysgu addurno cacennau gan redeg busnes gwneud cacennau priodas.

Mae Winnie bellach yn llais a wyneb cyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru a gwylwyr rhaglen Heno ar S4C lle mae hi'n rhannu ei chynghorion am goginio a chadw t欧.

Roedd wedi ymddeol i fyngalo ym Mhontargothi pan gyfarfu 芒 Dai, a oedd yn drydanwr cyn iddo ymddeol.

Ydy hi'n braf cael ailgyfle?

"Mae'n hyfryd achos mae mwy o ishe cwmni arna i nawr," meddai

"Gwraig ffarm o'n i amser colles i'r g诺r cynta' ac roedd cymaint o waith gyda chi, cofio gwneud popeth a chadw'r plant i fynd - o'n i mo'yn eu rhoi nhw drwy'r coleg - roedd hi'n anodd ofnadwy.

Ffynhonnell y llun, llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y llun cyntaf o Dai a Winnie gyda'i gilydd

"Felly fe ddaeth Dai ar ei dro a gofynnodd i fi mewn rhyw chwe mis ar 么l inni gwrdd, a wnei di briodi fi - '''na fi dy briodi di rywbryd', wedes i, 'ond dwi ddim yn priodi ti nes bo'r plant wedi neud eu cartref eu hunain - mae mwy o ishe mam arnyn nhw nawr, maen nhw wedi colli eu tad'."

Bu'r ddau'n gweld ei gilydd tra roedd Winnie yn byw ym Mhontargothi a Dai rhyw 35 milltir i ffwrdd yng Nghrymych ond aeth y pellter yn ormod a chytunodd Winnie i fynd i fyw at Dai i Grymych pan oedd o'n 65 mlwydd oed.

"O'n i'n meddwl, 'bydd e'n gofyn imi nawr si诺r o fod' ond na wir, buodd e ddigon slow, gofynnodd e ddim byd!" meddai.

"Buon ni'n byw gyda'n gilydd am 20 mlynedd a nawr mae wedi dod - Mr a Mrs. Dwi 'run peth a'r cw卯n nawr, 'My husband and I!'"

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y fodrwy - doedd gan Winnie ddim syniad fod Dai am brynu modrwy dywedd茂o iddi

Dim ond y gweinidog a'r cofrestrydd oedd yn gwybod eu bod yn priodi, ac roedden nhw wedi eu siarsio i gadw'r syrpreis.

"Oedd neb yn gwybod bod ni'n priodi, dim hyd yn oed y plant - mae tri o blant 'da fi a tri o blant 'da Dai, oedd dim un yn gwybod dim," meddai.

"Mor gynted 芒 daethon ni mas i'r car park, ffones i'r ferch yn gynta' a gath hi shwd sioc o'dd hi ddim yn si诺r iawn beth oedd wedi digwydd," meddai, ond roedd h'n falch iawn gan fod Dai yn agos iawn atyn nhw.

"Mae e wedi bod yn dad hyfryd iddyn nhw," meddai.

Ond dydi bywyd ddim yn wahanol meddai Winnie a llawer yng Nghrymych yn meddwl eu bod yn "briod ers blynyddoedd beth bynnag" meddai.

Parhau i fwynhau cwmni ei gilydd sy'n bwysig iddyn nhw nawr.

"Bydde fe wedi bod yn wahanol tasen i wedi 'neud e 20 mlynedd yn 么l. Ond pan chi wedi byw gyda'ch gilydd mor hir... dim ond cwmn茂aeth sydd eisie nawr."

Hefyd o ddiddordeb:

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap 大象传媒 Cymru Fyw