大象传媒

Ailddychmygu Gwlad y Rwla

  • Cyhoeddwyd

Mae trigolion Gwlad y Rwla, cymeriadau hoffus Angharad Tomos, yn gyfarwydd i nifer o ddarllenwyr, a Rala Rwdins, y wrach gl锚n, wedi bod yn boblogaidd ymysg plant Cymru ers ei hymddangosiad cyntaf ddechrau'r 1980au.

Ond mae'r arlunydd o Aberystwyth, Efa Lois, wedi penderfynu rhoi tro modern i'r ffrindiau hudol, ac ailddychmygu sut y bydden nhw'n edrych yn yr 21ain ganrif. Yma mae hi'n egluro pam:

Ffynhonnell y llun, Efa Lois
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Dewin Dwl

"Fy mwriad oedd i greu rhywbeth fydde'n portreadu'r cymeriadau mewn ffordd cyfoes, yn fy arddull i, fel sialens i fy hunan yn fwy nag unrhyw beth."

Ffynhonnell y llun, Efa Lois
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ceridwen

"Roedd cymeriadau Gwlad y Rwla yn rhan o dirlun fy mhlentyndod, ac roedd creu y darnau hyn yn ffordd o ddod 芒 nhw i fy mhresennol i, fel petai."

Ffynhonnell y llun, Efa Lois
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rwdlan

"Mae'r cymeriadau arluniais i yn edrych yn wahanol i'r rhai gwreiddiol - mae un yn darllen dail te, mae gan un dat诺s ac mae un arall yn darllen p锚l grisial."

Ffynhonnell y llun, Efa Lois
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rala Rwdins

"Mi osodais i'r cymeriadau ble dwi'n eu dychymygu nhw'n bod - y Dewin Dwl yn myfyrio mewn cae o fadarch, a Rala Rwdins yn eistedd mewn d诺r, wedi ei hamgylchynu 芒 blodau."

Ffynhonnell y llun, Efa Lois
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Dewin Doeth

"Dwi'n cael fy ysbrydoli gan hen chwedlau a thraddodiadau sy'n dod fel ail-natur i ni yng Nghymru, a sut fydde cyflwyno'r pethau hynny ar ffurf gyfoes i'r byd tu hwnt."

Ffynhonnell y llun, Efa Lois
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Strempan

"Dwi'n arlunio menywod anghofiedig hanes Cymru ar gyfer Prosiect Drudwen a darluniau o leoliadau Cymru ar gyfer Rhithganfyddiad. Dwi hefyd yn arlunio seintiau anghyffredin Cymru ar fy nghyfrifon Twitter ac Instagram."

Ffynhonnell y llun, Efa Lois
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Efa Lois

"Dwi'n credu bod cyflwyno Cymru a'r hyn sy'n ein gwneud ni'n unigryw i weddill y byd yn hynod bwysig."

Hefyd o ddiddordeb: