Gwahardd Cynghorydd Ceidwadol am sylwadau dadleuol
- Cyhoeddwyd
Mae aelod Ceidwadol o Gyngor Caerdydd wedi cael ei gwahardd o gr诺p ei phlaid yn dilyn sylwadau a wnaeth am ddigartrefedd yn y ddinas.
Mewn fideo ar Twitter y mae nifer wedi ei ddisgrifio yn "annynol" a "ffiaidd", dywedodd y Cynghorydd Kathryn Kelloway bod pebyll pobl ddigartref ar y strydoedd yn amharu ar ddelwedd a diogelwch yn y brifddinas a dylid "eu rhwygo i lawr".
Dywedodd Ms Kelloway ei bod hi'n falch o dynnu sylw at y broblem.
Roedd y neges wedi ei chyfeirio at arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, a atebodd bod y sylwadau yn "annoeth", a bod angen gweithredu mewn modd sensitif wrth fynd i'r afael 芒'r broblem.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol dywedodd llefarydd ar ran y gr诺p Ceidwadol fod Ms Kelloway "wedi ei gwahardd o'r gr诺p ac na fyddai sylw pellach ar y mater yn cael ei wneud".
Yn gynharach ddydd Gwener dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig nad yw'r sylwadau'n adlewyrchu safbwyntiau'r blaid.
'Rhwygwch y pebyll yma i lawr'
Yn y fideo, dywedodd Ms Kelloway: "Cynghorydd Thomas, os y'ch chi'n dymuno diogelwch yng nghanol ein dinas, os y'ch chi'n dymuno llewyrch i fusnesau lleol, os y'ch chi'n dymuno delwedd well i Gaerdydd - Cynghorydd Thomas, dewch i Stryd y Frenhines.
"Cynghorydd Thomas, rhwygwch y pebyll yma i lawr."
Atebodd Mr Thomas ar Twitter: "Wrth gwrs does neb eisiau pebyll yng nghanol ein dinas, ond mae'n rhaid gweithredu mewn modd sensitif, a chefnogi pobl i symud i lety gyda chymorth ar gyfer anghenion sydd wrth wraidd [eu sefyllfa].
"Does dim syndod bod digartrefedd yn cynyddu'n sylweddol dan y Llywodraeth Geidwadol yma [yn San Steffan], os taw 'rhwygo pebyll i lawr' yw'r cyfeiriad meddwl."
Mewn ymateb i'r feirniadaeth yn sgil y neges wreiddiol, fe fynnodd Ms Kelloway bod digartrefedd yn fater o bwys iddi, a'i bod wedi gweithio i elusennau digartrefedd.
"Rwy'n falch 'mod i wedi tynnu sylw i'w mater pwysig yma," meddai.
"Pe tasae nunlle arall i'r bobl yma fynd, fe fydde fy sylwadau yn ofnadwy a didostur! Ond mae gyda nhw rywle i fynd.
"Mae mwy na digon o welyau hostel ar gael yng Nghaerdydd. Rwy' mo'yn nhw mewn ystafelloedd, nid pebyll."
Ychwanegodd y cynghorydd, sy'n aelod o bwyllgor gwasanaethau oedolion y cyngor, mai oherwydd "methiant polisi maen nhw'n cael byw mewn pebyll yn lle defnyddio gwasanaethau".
Cyfarfod i drafod y ffordd ymlaen
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd wrth Taro'r Post bod y cyngor "yn ymwybodol o nifer cynyddol y pebyll yn y ddinas ac yn trefnu cyfarfod gyda phartneriaid yn cynnwys yr heddlu, elusennau a llochesi'r digartref a busnesau canol y ddinas i ddatblygu ffordd ymlaen.
"Rydym yn bryderus bod cynnydd yn nifer y pebyll yn cael effaith uniongyrchol ar nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd sy'n penderfynu peidio derbyn cynigion o gymorth a dod oddi ar y strydoedd i gael y cymorth arbenigol i drawsnewid eu bywydau."
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Geidwadol yng Nghymru: "Nid yw sylwadau'r Cynghordd Kelloway'n adlewyrchu safbwyntiau'r Ceidwadwyr Cymreig o gwbl. Mae digartrefedd yn fater ingol a chymhleth eithriadol sy'n gofyn am gyfraniad gan bawb o fewn cymdeithas i'w daclo'n effeithiol.
"Y gwir yw does dim angen i unrhyw un gysgu yn yr awyr agored. Mae pawb yn haeddu lle i'w alw'n gartref, ac rydym yn credu bod rhaid gwneud popeth posib i helpu aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas
"Mae Llywodraeth y DU wedi neilltuo cyllid ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol i fynd i'r afael 芒'r holl fathau o ddigartrefedd, ac mae angen defnyddio'r arian hwnnw i wella bywydau."