Ymweld 芒 Chaergybi i ganfod effaith Brexit ar fasnach
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau'r Pwyllgor Materion Cymreig yn ymweld 芒 phorthladd Caergybi ddydd Llun er mwyn archwilio effaith Brexit ar fasnach yn y dyfodol.
Porthladd Caergybi yw un o'r porthladdoedd mwyaf ym Mhrydain sy'n ymdrin 芒 theithwyr a chargo.
Ar gyfer ei ymchwiliad i fasnach a thollau, mae'r Pwyllgor Materion Cymreig eisoes wedi derbyn tystiolaeth gan arbenigwyr ar bolisi masnach a chynrychiolwyr o'r diwydiannau cludo nwyddau.
Mae'r Pwyllgor wedi clywed pryderon y gallai cadwyni cyflenwi 'rholio-ymlaen rholio-i-ffwrdd', sy'n hwyluso symud nwyddau o un ochr i F么r Iwerddon i'r llall, wynebu anawsterau wedi i Brydain adael yr UE.
'Dim cytundeb?'
Ddydd Llun bydd aelodau'r pwyllgor yn cwrdd 芒 staff y porthladd er mwyn trafod effaith bosib Brexit ar wasanaethau masnachol a gwasanaethau ar gyfer teithwyr sy'n weithredol o Gaergybi.
Mae disgwyl i'r aelodau hefyd ofyn beth yw paratoadau awdurdod y porthladd ar gyfer Brexit gan gynnwys cynlluniau wrth gefn ar gyfer 'dim cytundeb', a sut y gallai Brexit effeithio ar gyfraniad Caergybi i'r economi leol.
Ddechrau'r flwyddyn dangosodd ymchwil gan y 大象传媒 bod dau ddarn o dir ar Ynys M么n wedi eu clustnodi fel lleoliadau posib i barcio lor茂au rhag ofn na fydd porthladd Caergybi yn gallu ymdopi gyda thraffig yn sgil Brexit heb gytundeb.
Mae 'na bryder y gallai mwy o archwiliadau ar ffiniau yn sgil Brexit heb gytundeb arwain at broblemau traffig mewn porthladdoedd.
Fis Tachwedd y llynedd, dywedodd y Prif Weinidog ar y pryd Carwyn Jones, nad oedd porthladdoedd Cymru yn barod i ddelio ag effaith posib Brexit heb gytundeb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2017