Banc olaf Castell Newydd Emlyn ar fin cau am y tro olaf
- Cyhoeddwyd
Mae'r banc olaf un yn paratoi i gau ei ddrysau am y tro olaf yng Nghastell Newydd Emlyn ddydd Mawrth .
Mae'r dref farchnad wedi collli tri banc arall yn y blynyddoedd diwethaf, wrth i fanciau gau canghennau ar hyd a lled Cymru.
Lloyds yw'r gangen ddiweddaraf i gau ei drysau yn y dref sydd ar ffin Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
Wedi ei sefydlu 68 mlynedd yn 么l, cwmni offer trydanol JDR Thomas yw'r busnesa hynaf yng Nghastell Newydd Emlyn, ac yn 贸l y perchennog John Thomas , mae'n ddiwedd cyfnod.
"Bydd e'n ofnadwy a dweud y gwir. Ni 'di bod 芒 phedwar banc dros y blynyddoedd a ni wedi bod yn gwsmer gyda Lloyds ers dros hanner can mlynedd.
"Oedd e'n un o'r banciau mwyaf yng Nghymru i ffermwyr yn ei amser ac i feddwl bod e'n mynd i gau, mae'n ofnadwy," meddai.
'Becso taten'
Yn 么l yr arwerthwr lleol, Geraint James, mae colli pob banc yn ergyd i'r dref, gan fod nifer o bobl yn dal i ddefnyddio arian a sieciau.
"Y bobol uchel lan yn y banciau, dy'n nhw ddim yn becso taten am gefen gwlad," meddai.
Mae tri banc arall wedi cau yn y blynyddoedd diwethaf yng Nghastell Newydd Emlyn. A hyd yn hyn, does yr un o'r adeiladau hynny wedi ail agor eu drysau.
Yn 么l cwmni Lloyds, newidiadau yn arferion bancio cwsmeriaid sydd wedi arwain at y penderfyniad i gau'r banc.
Mae'r banc yn pwysleisio y bydd canghennau symudol yn ymweld 芒 Chastell Newydd Emlyn am ddwy awr bob wythnos ar ddyddiau Llun a Mercher.