Brexit: Mwyafrif ASau yn erbyn gadael yr UE heb gytundeb
- Cyhoeddwyd
Mae Aelodau Seneddol wedi bod yn pleidleisio ar gyfres o welliannau i Gytundeb Ymadael yr Undeb Ewropeaidd yn San Steffan.
Cafodd dau o'r gwelliannau eu cymeradwyo, gan gynnwys un yn galw am wrthod gadael yr UE heb gytundeb.
Roedd y llall yn galw am "drefniadau amgen" i'r 'backstop', sef cynlluniau i osgoi ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon ar ôl Brexit.
Pwrpas y gwelliannau oedd ceisio canfod ffordd o gyrraedd cytundeb o fewn i DÅ·'r Cyffredin cyn cynnal pleidlais ar y mesur llawn.
Cafodd y cytundeb hwnnw ei drechu o fwyafrif anferth bythefnos yn ôl, gyda 432 o ASau yn ei wrthwynebu.
Mewn ymateb i'r pleidleisio, dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns y bydd Mrs May nawr yn "mynd i Frwsel gyda mandad" i aildrafod gadael yr UE.
Ond beirniadol oedd ymateb Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, mewn trydar nos Fawrth:
"Mae heddiw wedi colli mwy o amser hanfodol i ni. Rhaid i Lywodraeth y DU gymryd camau pendant a gweithredu ar ewyllys y mwyafrif o Aelodau Seneddol i wrthod gadael heb gytundeb.
"Mae'n anhygoel bod y Prif Weinidog wedi cefnogi galwadau i ail-drafod y 'backstop'.
"Pythefnos yn ôl dywedodd fod hyn yn amhosib."
Beth oedd y gwelliannau?
Y gwelliant cyntaf nos Fawrth oedd un gan arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn oedd yn galw am fwy o amser i'r Senedd gael trafod opsiynau eraill i'r cytundeb Brexit, gan gynnwys cadw undeb dollau a phleidlais ar gytundeb terfynol Brexit.
Cafodd y gwelliant yna ei drechu o 327 i 296.
Y gwelliant nesaf oedd un ar y cyd rhwng SNP a Phlaid Cymru oedd yn galw estyniad i Erthygl 50, i atal dim cytundeb ac yn galw am mwy o lais i wledydd y DU.
Colli fu hanes y gwelliant yna hefyd, ac o fwyafrif tipyn mwy gyda 39 o blaid ond unwaith eto, 327 yn erbyn.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Un peth sy'n aneglur am y trafodaethau yw a fydd hyn yn golygu unrhyw drafod pellach gyda'r Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel.
Daeth awgrym na fyddai hynny'n bosib yn ystod y noson, ond aeth ASau ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau eraill.
Y nesaf i gael ei wrthod oedd un gan y cyn-Dwrne Cyffredinol, Dominic Grieve oedd yn galw am chwe diwrnod ychwanegol i'r senedd gael trafod Brexit, a hynny gyda'r hawl i roi cynigion - a chynnal pleidleisiau - ar gynlluniau amgen ar gyfer Brexit.
Pleidleisiodd 301 o blaid, ond roedd 321 yn erbyn y gwelliant - pleidlais agosa'r noson hyd yn hyn.
Roedd y gwelliant nesaf - gan yr AS Llafur Yvette Cooper a'r Ceidwadwr Nick Boles - yn cael ei weld fel un o rai mwyaf arwyddocaol y noson, gan ei fod yn galw am sicrhau na fyddai'r DU yn gadael yr UE heb gytundeb.
Byddai'n gwneud hynny drwy sicrhau amser ychwanegol yn y senedd i ymestyn Erthygl 50.
Roedd y blaid Lafur wedi 'chwipio' ei haelodau i gefnogi'r gwelliant yma, ac roedd disgwyl pleidlais agos iawn.
Doedd hi ddim mor agos â hynny, gyda'r gwelliant yn cael ei drechu o 321 i 298. Fe wnaeth 14 o aelodau Llafur bleidleisio yn erbyn y gwelliant, gan herio chwip y blaid.
Aildrafod
Beth bynnag fyddai'n digwydd yn yr amryw bleidleisiau, roedd Theresa May eisoes wedi dweud y byddai'n ceisio gwneud yr hyn yr oedd wedi dweud yn flaenorol oedd yn amhosib, sef ailagor trafodaethau gyda Brwsel ar y cytundeb.
Hyd yn oed pe byddai TÅ·'r Cyffredin yn pleidleisio o blaid un o'r gwelliannau oedd yn newid y cytundeb mewn rhyw ffordd, fe fyddai'n rhaid i'r UE hefyd gytuno i'r newid yna.
Yr awgrym cryf o Frwsel yw nad yw'r UE yn barod i aildrafod y cytundeb o gwbl.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Y gwelliant nesaf oedd un gan yr AS Llafur, Rachel Reeves oedd yn galw am ymestyn Erthygl 50 os nad oes dêl wedi ei chytuno erbyn 26 Chwefror.
Colli fu hanes y gwelliant yma hefyd - o 322 i 290.
Dim cytundeb?
Gwelliant y Ceidwadwr Caroline Spelman a'r Llafurwr Jack Dromey oedd yr unig un oedd yn galw'n benodol ar y DU i wrthod gadael yr UE heb gytundeb. Hwn oedd y gwelliant a gafodd y nifer mwyaf o ASau yn ei arwyddo wrth ei gyflwyno.
Doedd hynny ddim yn sicrwydd o lwyddiant i'r gwelliant, ond fe lwyddodd o 318 i 310.
Er hynny, dyw cymeradwyo'r gwelliant ddim yn gorfodi'r Llywodraeth i newid y Mesur gwreiddiol a gafodd ei wrthod yn ddiamheuol yn gynharach yn y mis.
Ond roedd yn dangos bod mwyafrif yr ASau yn awyddus i beidio caniatáu i'r DU adael yr UE os na fydd cytundeb gyda Brwsel mewn lle.
Roedd hynny'n gadael un gwelliant ar ôl, a gwelliant y Ceidwadwr Graham Brady oedd yr un oedd â chefnogaeth y Llywodraeth.
Roedd y gwelliant yn galw am geisio canfod trefniadau amgen yn lle'r 'backstop', sef mesurau i beidio cael ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon pan fydd Brexit yn digwydd.
Doedd y gwelliant ddim yn manylu ar beth fyddai'r "trefniadau amgen".
Cafodd y gwelliant ei basio o 317 i 301. Mae mwyafrif yr ASau felly'n fodlon cefnogi cytundeb Theresa May os y bydd yn llwyddo i wneud newidiadau i Gytundeb Ymadael yr UE, a dywedodd Mrs May y byddai'n mynd i Frwsel i drafod hynny.
Fe wnaeth Mrs May unwaith eto estyn gwahoddiad i'r ASau a gyflwynodd welliannau er mwyn trafod y sefyllfa ymhellach, ac fe wnaeth ategu ei gwahoddiad i Jeremy Corbyn i drafod gyda hi.
Gan fod y gwelliant yn galw am beidio gadael yr UE heb gytundeb gael ei gymeradwyo, fe dderbyniodd Mr Corbyn y gwahoddiad yna, ac mae disgwyl i'r ddwy ochr ddechrau trafod yn fuan.
Dadansoddiad gohebydd gwleidyddol ´óÏó´«Ã½ Cymru, Gareth Pennant:
Dyma oedd cyfle Aelodau Seneddol i gymryd rheolaeth o'r broses Brexit.
Methu wnaethon nhw i ddatgan barn ar y ffordd ymlaen, i ryddhad y llywodraeth.
Wedi penderfyniad Theresa May i ailagor y trafodaethau, roedd hynny'n ddigon i'r Brexiteers gefnogi gwelliant y Ceidwadwr blaenllaw Syr Graham Brady.
Roedd o'n galw am drefniant gwahanol i'r 'backstop'.
Ond y feirniadaeth ydy bod y manylion am yr alwad honno'n rhy amwys.
Bydd y sylw a golygon y prif weinidog felly'n troi at Frwsel wrth iddi geisio cael newidiadau i'w chytundeb Brexit.
Gobaith Mrs May ydy na fydd honno'n sgwrs fer efo'r Undeb Ewropeaidd.
Maen nhw'n mynnu na fydd 'na newid i'r cytundeb a bod y bennod honno wedi darfod.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2019