Dros 100 yn galw am achub ysgol Gymraeg Felindre
- Cyhoeddwyd
Mae dros 100 o bobl wedi arwyddo llythyr agored yn galw ar Gyngor Abertawe i ailystyried eu penderfyniad i gau ysgol gynradd yng ngogledd y sir.
Bwriad y cyngor yw creu bron i 800 o lefydd addysg cyfrwng Cymraeg newydd yn y blynyddoedd nesaf, ond byddai'r buddsoddiad yn golygu cau Ysgol Gymraeg Felindre.
Ar 么l cyfnod ymgynghori llynedd daeth cadarnhad bod Ysgol Gymraeg Tan-y-Lan yn cael ei chodi yn ardal Clase, a bod adeilad newydd yn cael ei godi i gartrefu Ysgol Gymraeg Tirdeunaw.
Ond mae'r llythyr agored yn datgan siom na fydd ysgol Gymraeg yn ward Mawr yng ngogledd Sir Abertawe bellach, er mai dyma'r ardal gyda'r canran uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y sir.
Yn 么l Cyfrifiad 2011 roedd 38% o bobl yr ardal, sydd i'r gogledd o'r M4 ger Abertawe, yn siarad Cymraeg - mwy 'na Phontarddulais (32%) a Chlydach (20%).
Dywedodd Cyngor Abertawe bod "ymgynghoriad cyhoeddus ar raddfa fawr" wedi ei gynnal a'u bod yn buddsoddi 拢23m i gynyddu'r nifer o lefydd i ddisgyblion cyfrwng Cymraeg yn y sir.
'Gwendidau sylfaenol' yn yr ymgynghoriad
Yn 么l y llythyr roedd yna "wendidau sylfaenol" yn yr ymgynghoriad ar y cynlluniau.
"Fel y nododd Estyn yn eu hymateb, ymysg nifer o ddiffygion eraill ni lwyddwyd i graffu ar safon y ddarpariaeth addysgol bresennol yn yr ysgol, er bod y cyngor yn dweud mai ar seiliau addysgol y cyhoeddwyd y bwriad i gau," meddai'r llythyr.
"Nid oedd felly dystiolaeth gadarn i brif ddadl y cyngor o blaid y cau.
"Nid yw Ymgynghoriad y Cyngor Sir wedi gallu dirnad na chydnabod chwaith werth ychwanegol cymuned naturiol Gymraeg Felindre a'r cyfoeth profiadau y mae'r disgyblion yn eu cael yn eu hymwneud 芒'r gymuned hyfyw hon.
"Methwyd 芒 chynnwys yn yr ymgynghoriad unrhyw ystyriaeth o'r effaith y byddai cau'r ysgol yn ei gael ar sefyllfa'r Gymraeg fel iaith gymunedol yn Felindre a'r ardal gyfagos."
Mae ysgol cyfrwng Saesneg cyfagos, Ysgol Craig Cefn Parc, am gau hefyd, gyda'r cyngor yn tynnu sylw tuag at y niferoedd bychan sy'n mynychu'r ysgolion.
Tra bod 49 o ddisgyblion yn Ysgol Craig Cefn Parc, 14 o ddisgyblion yn unig sy'n Ysgol Felindre - gyda dim ond pedwar o'r rheiny'n blant lleol.
Yn 么l yr awdur Angharad Dafis, cyn-lywodraethwr yr ysgol a wnaeth drefnu'r llythyr, mae'r niferoedd wedi newid o flwyddyn i flwyddyn erioed.
"Yn hanesyddol mae'r niferoedd wedi bod yn mynd lan a lawr fel yo-yo, dyw hyn yn ddim byd newydd mewn ffordd ac hefyd, pan mae pobl yn s么n am niferoedd wy'n gweud: 'hoeliwch eich sylw ar hyn, mae 10 person yn y Cyngor Sir yna yn pennu dyfodol cymuned Gymraeg hyfyw, a'r hawl absoliwt hyd y gwelai i i wneud hynny.'"
'Claddu newyddion drwg'
Mae Ms Dafis a chefnogwyr yr ysgol am i'r cyngor newid dalgylchoedd yr ysgol i roi cyfle iddi ffynnu.
"Dyw hi ddim yn ysgol yng nghanol y wlad, mae 'da hi'r mantais bod dwysedd poblogaeth i sawl cyfeiriad gan gynnwys Penllergaer, Pontarddulais - lle fydd 'na ddatblygiad tai newydd - mae pentre Craig Cefn parc ei hunain hefyd wrth gwrs.
"Hefyd, y tai fydd yn cael eu hadeiladu i'r gogledd o'r draffordd, mae synnwyr yn dweud bod rheina'n mynd i fwydo Felindre.
"Ni'n llawenhau yn natblygiad addysg Gymraeg yn Nhirdeunaw a Than-y-lan ond dyle nhw ddim fod yn claddu'r newyddion drwg o gau Ysgol Felindre o dan y newyddion da."
Buddsoddi 拢23m yn y sir
Yn 么l llefarydd ar ran Cyngor Abertawe: "Er gwaethaf y buddsoddiad ychwanegol sylweddol a chefnogaeth a gynigiwyd yn YGG Felindre, mae gan y cyngor bryderon am safon a chynaliadwyedd addysg yn yr ysgol yn y dyfodol.
"Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ar raddfa fawr ei chynnal, a oedd yn cynnwys cyfarfodydd yn yr ysgol ac yn y gymuned. Cafodd asesiadau ar ei effaith ar y gymuned, effaith ar gydraddoldeb ac effaith ar yr iaith Gymraeg eu cynhyrchu.
"Mae gan bobl tan 6 Chwefror i gyflwyno unrhyw wrthwynebiadau a fydd yn cael eu hystyried gan y Cabinet cyn dod i benderfyniad terfynol.
"Dylai'r gwaith ddechrau ar adeiladau newydd sbon ar safleoedd newydd ar gyfer YGG Tan-y-lan a YGG Tirdeunaw, a fydd yno ar gyfer disgyblion yn nalgylch presennol Felindre.
"Wedi'i orffen, bydd y buddsoddiad gwerth dros 拢23m yn cynyddu'r nifer o lefydd cyfrwng Cymraeg yn yr ysgolion poblogaidd a llwyddiannus yma gyda 210 lle ychwanegol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2018