'Dim cyfarfodydd' gyda gweinidog am archif genedlaethol
- Cyhoeddwyd
Dydy Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru ddim wedi mynychu cyfarfodydd ffurfiol gyda'r Llyfrgell Genedlaethol ers iddo gael ei benodi yn 2017, yn 么l y prif weithredwr.
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn derbyn dros 拢9m mewn grant bob blwyddyn, ond mae'r berthynas wedi dod dan straen dros gynllun i greu archif ddarlledu newydd.
Mae Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, a ddaeth yn Ddirprwy Weinidog dros Ddiwylliant ym mis Tachwedd 2017, wedi gwrthod rhoi 拢1m tuag at sefydlu'r archif genedlaethol newydd nes i'r llyfrgell newid ei gynllun busnes.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymgysylltu 芒'r llyfrgell "ar bob cam o'r cynllun".
Byddai'r archif ddarlledu genedlaethol yn cael ei lleoli yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, a byddai'n gartref parhaol i archif deledu gyfan 大象传媒 Cymru yn ogystal 芒 deunydd gan ddarlledwyr eraill.
Byddai'r ganolfan yn gartref i 160,000 o recordiadau o archif.
Mae Prif Weithredwr y Llyfrgell Genedlaethol, Linda Tomos, wedi ysgrifennu at Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad, sydd wedi bod yn craffu ar gynigion.
Wrth amddiffyn y cynllun busnes, ysgrifennodd Ms Tomos ei bod wedi "darparu'r holl wybodaeth y gofynnodd Llywodraeth Cymru amdano" ac wedi gofyn "yn gyson" os oedd angen mwy o wybodaeth.
Ychwanegodd nad oedd yr Arglwydd Elis-Thomas wedi mynychu cyfarfodydd oedd fod i ddigwydd bob chwe mis gyda Llywydd y Llyfrgell, Rhodri Glyn Thomas, ers ymuno 芒'r cabinet.
"Nid yw'r cyfarfodydd gweinidogol chwe mis arferol gyda'r Llywydd wedi cael eu cynnal ers i'r Dirprwy Weinidog gael ei benodi," meddai.
Dywedodd Ms Tomos "na dderbyniwyd ateb" i e-bost yn gofyn am alwad ff么n brys rhwng llywydd y llyfrgell a'r Arglwydd Elis-Thomas yr haf diwethaf.
Cafodd yr e-bost ei anfon ar 19 Gorffennaf gan aelod o staff y llyfrgell i un o swyddogion yr Arglwydd Elis-Thomas.
Mae'n gofyn am alwad ff么n brys rhwng Rhodri Glyn Thomas a'r Arglwydd Elis-Thomas ar 么l derbyn llythyr gan y gweinidog y bore hwnnw.
'Ymrwymo'n glir'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymgysylltu 芒'r llyfrgell "ar bob cam o'r cynllun".
Ychwanegodd fod staff y llywodraeth wedi cwrdd 芒 chynrychiolwyr o'r Llyfrgell Genedlaethol a'r 大象传媒 ar 18 Ionawr, a bod y ddau "wedi ymrwymo'n glir i gael ateb derbyniol i sicrhau darpariaeth a chynaliadwyedd yr Archif Ddarlledu Genedlaethol".
"Gan fod y trafodaethau hyn ar y gweill, gan gynnwys trafodaethau mewnol yn y Llyfrgell Genedlaethol a'r 大象传媒, ni fyddai'n briodol inni fynd i fwy o fanylion."
Er nad yw'r gweinidog wedi cynnal cyfarfodydd ffurfiol 芒 staff y llyfrgell, mae'r Arglwydd Elis-Thomas wedi cwrdd 芒 rhai o'i hymddiriedolwyr - a'r llywydd - yn anffurfiol mewn digwyddiadau arbennig.
Mae'r llywodraeth wedi mynegi pryderon yn gyhoeddus am gynllun busnes yr archif ddarlledu genedlaethol yn ystod y misoedd diwethaf.
Wrth ymddangos o flaen Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad ym mis Ionawr, dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas y byddai'n galw ar y 大象传媒 i gynyddu ei gyfraniad ariannol i'r prosiect.
Er bod Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cytuno mewn egwyddor i ariannu'r rhan fwyaf o gost yr archif, mae angen i'r llywodraeth ymrwymo 拢1m er mwyn rhyddhau gweddill yr arian.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd4 Mai 2017