大象传媒

Dyn ifanc yn teimlo 'dyletswydd' i adfer cofeb Tryweryn

  • Cyhoeddwyd
Elfed Wyn JonesFfynhonnell y llun, Elfed Wyn Jones

Mae dyn ifanc wedi dweud ei fod yn teimlo "dyletswydd" i fwrw ati i adfer murlun 'Cofiwch Dryweryn'.

Daeth i'r amlwg fore Llun bod gwaith i adfer y gofeb eiconig yng Ngheredigion wedi dechrau, a hynny ar 么l i rywun baentio'r enw 'Elvis' dros y geiriau gwreiddiol.

Roedd yna gryn ymateb dros y penwythnos wedi'r achos diweddaraf o amharu ar y gofeb ar yr A487 yn Llanrhystud rhwng Aberystwyth ac Aberteifi.

Yn 么l cadeirydd pwyllgor diwylliant y Cynulliad, yr AC Plaid Cymru, Bethan Sayed fe allai Llywodraeth Cymru "ymyrryd yn fwy amlwg" i warchod safleoedd o bwys hanesyddol a diwylliannol i Gymry.

'Golygu cymaint i Gymru'

Elfed Wyn Jones yw un o'r criw sydd wedi bod wrthi'n adfer y murlun, sy'n cofio hanes boddi pentref Capel Celyn, a dywedodd iddo yrru lawr o'i gartref yn Nhrawsfynydd a chyfarfod ei ffrindiau yn Aberystwyth.

Am ei bod hi'n glawio, penderfynodd y criw baentio'r cefndir coch yn gyntaf, ac aros iddi sychu tan gorffen y murlun.

Cafodd y gwaith paentio ei gwblhau nos Lun.

"Mae o'n furlun sy'n perthyn i Gymru, ac o'n i'n teimlo bod o'n warth ei fod o wedi cael ei baentio drosodd," meddai.

"Mae'n golygu cymaint i Gymru ac fe deimlon ei fod o'n ddyletswydd i ni'n pump fynd ati i baentio'r murlun, i'r genedl.

"Pan fo petha fel 'na yn digwydd i ni, mae cymaint o amser yn mynd tan eu bod yn cael eu trwsio."

Ffynhonnell y llun, Elfed Wyn Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Elfed Wyn Jones bod nifer wedi sylwi ar y paent coch ar ei ddwylo

Er ei fod yn gweithio i Gymdeithas yr Iaith, pwysleisiodd mai penderfyniad annibynnol oedd mynd ati i adfer y murlun.

Yn 么l Mr Jones: "Mae'r ymateb wedi bod yn dda iawn, mae o wedi dychryn fi i ddeud y gwir, cymaint mae pobl wedi gwerthfawrogi'r hyn 'da ni wedi 'neud."

Dywedodd i nifer o yrwyr ganu corn i ddangos eu cefnogaeth i'r pump ohonynt wrth baentio dros y graffiti, a bod "lot wedi diolch o weld ein dwylo ni'n goch".

"Dwi'm yn meddwl ga i'r coch 'ma byth off fy nwylo!" meddai.

Gwarchod y gofeb?

Mae yna ddeiseb wedi cael ei chreu yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi statws arbennig i'r murlun, gyda dros 2,000 wedi ei harwyddo.

Cafodd graffiti 'Cofiwch Dryweryn' ei baentio yn y lle cyntaf yn y 1960au gan y diweddar ysgolhaig Meic Stephens.

Mae'n cyfeirio at foddi'r pentref ger Y Bala yn 1965 i greu cronfa dd诺r ar gyfer trigolion Lerpwl.

Ffynhonnell y llun, Twitter @AledGwynWilliams
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Neges ar gyfrif Twitter @AledGwynWilliams

Dywedodd Ms Sayed, AC dros dde orllewin Cymru, wrth raglen y Post Cyntaf bod yr ailbaentio gwreiddiol dros y Sul gyda'r enw 'Elvis' a chalon wen wedi ysgogi "cryn drafodaeth... yngl欧n 芒'r ffyrdd, efallai, gellir fod Llywodraeth Cymru yn ymyrryd yn fwy amlwg yn y sefyllfaoedd yma er mwyn bod ni'n gallu cofio ein hanes ni fel Cymry".

"Falle nad ydy'r bobl yma wedi deall yn iawn beth maen nhw'n gwneud - er, o'dd e'n mynd i gymryd eitha' lot o ymdrech i droi lan i baentio 'Elvis' dros 'Cofiwch Dryweryn', meddai.

Ychwanegodd bod y pwyllgor diwydiant yn cynnal ymchwiliad yn fuan i addysg hanes yn ysgolion Cymru.

"Os nad yw pobl yn deall eu hanes, fel falle sydd yn amlwg yn y sefyllfa yma, mae'n bwysig ein bod ni, er mwyn parchu petha' fel hyn sydd yn rhan gynhenid mawr o'r hanes ni."

Ffynhonnell y llun, Morys Gruffydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd yna gryn ymateb dros y penwythnos pan ddaeth i'r amlwg bod rhywun wedi paentio'r enw Elvis dros y slogan gwreiddiol

Mae AS Plaid Cymru, Liz Saville Roberts, hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd y murlun.

"Dim ond yng Nghymru all darn o waith celf gan Bansky gael ei warchod gydag arian cyhoeddus tra bod arwydd unigryw o frwydr wleidyddol ein cenedl am hunan-ddyfarniad yn agored i niwed o'r fath," meddai.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu nawr, a chydnabod hanes y genedl y mae'n honni ei bod yn ei gwasanaethu a rhoi'r gydnabyddiaeth a'r amddiffynfa mae'r emblem hon yn ei haeddu."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r arwydd yn gyfarwydd i yrwyr ar hyd yr A487 ers y 1960au

Dywedodd Ms Sayed nad yw'n credu bod yna gefnogaeth i'r syniad o warchod y gofeb trwy ei symud i Amgueddfa Werin Sain Ffagan.

"Be' sy'n bwysig yw bod pobl yn cofio'n hanes ni a bod ni'n sicrhau bod y gofeb yn aros yng Ngheredigion," meddai.

Mae'n awgrymu camau pellach i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn dysgu am ddigwyddiadau hanesyddol fel achos Tryweryn gan gynnwys "cofeb yn yr ardal yn dweud mai Meic Stephens o'dd wedi gwneud hyn ac yn rhoi cyd-destun yr hanes".

Mae Mr Jones hefyd yn galw am fwrdd gwybodaeth ger y murlun, er mwyn i bobl fod yn fwy ymwybodol o'i arwyddoc芒d.

"Os mai rhywun lleol wnaeth [baentio dros y murlun], yna mae 'na ddiffyg dealltwriaeth o hanes Cymru, ac mae 'na alw am fwy o ddysgu hanes Cymru mewn ysgolion.

"Os sa hanes Cymru yn cael ei ddysgu'n well, bydda 'na fwy o gefnogaeth i gadwraeth pethau sy'n bwysig i iaith a diwylliant Cymru."

Llywodraeth yn 'barod i drafod'

Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru y byddai'n barod i drafod "er mwyn gwella'r ffordd y mae'r safle'n cael ei ddehongli a'i warchod".

Ychwanegodd nad yw'r gofeb wedi ei rhestru ond bod modd "ailystyried cais am restru os oes tystiolaeth newydd".

Ond dywedodd y llefarydd bod " trafodaethau blaenorol am ddyfodol y safle wedi cwestiynu ai rhestru fyddai'r ffordd orau o ddarparu'r diogelwch sydd ei angen; er hynny,聽 fe hoffem archwilio'r opsiynau ar gyfer y dyfodol".