大象传媒

Ystyried a ddylid datganoli Toll Teithwyr Awyr

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr Caerdydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r dadlau am ddatganoli Toll Teithwyr Awyr wedi dechrau flynyddoedd yn 么l

Bydd aelodau'r Pwyllgor Materion Cymreig yn ymweld 芒 Maes Awyr Caerdydd ddydd Llun i ystyried y dadleuon o blaid ac yn erbyn datganoli Toll Teithwyr Awyr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau ers tro y dylai Cymru gael y pwerau i ddeddfu ar Doll Teithwyr Awyr fel bod modd denu hediadau pellach.

Yn y gorffennol mae gweinidogion y DU wedi dweud y byddai'n rhoi mantais annheg i Gaerdydd dros ddinasoedd eraill sy'n cystadlu am hediadau, fel Bryste.

Teithwyr sy'n talu Toll Teithwyr Awyr - mae teithwyr dosbarth economi sy'n hedfan dros 2,000 milltir yn talu tua 拢78 ar hyn o bryd - tra bod teithwyr dosbarth cyntaf yn talu 拢156.

Mae'r doll wedi'i datganoli yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon ond llywodraeth y DU sy'n deddfu ar y tollau yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y ddadl yw y gallai Caerdydd ddenu hediadau pellach petai'r dreth yn cael ei datganoli

Llywodraeth Cymru sy'n berchen ar Faes Awyr Caerdydd, ac yn 2017 dywedodd y prif weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, ei fod am gael rheolaeth dros y dreth fel ei fod yn gallu ei diddymu.

Dywedodd: "Pam fod hawl Yr Alban yn wahanol i Gymru?

"Fe allan ni ehangu Maes Awyr Caerdydd, fe allwn helpu i ehangu meysydd awyr eraill ar draws Cymru petai toll teithwyr awyr yn cael ei diddymu ac ry'n yn gwybod na fyddai hynny ar draul unrhyw un arall.

"Nid s么n am fynd 芒 theithwyr o feysydd awyr eraill ry'n ni - y rhai sydd dros y ffin - mae hyn yn ymwneud 芒'r galw cynyddol sydd 'na yng Nghymru."

Awgrymodd adroddiad gan weinidogion Cymreig y gallai diddymu Toll Teithwyr Awyr gynyddu nifer teithwyr blynyddol o 62,000 ac na fyddai hynny yn cael fawr o effaith ar Faes Awyr Bryste.

Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn gr诺p trawsbleidiol sy'n cynnwys 11 AS Cymreig sy'n cael ei gadeirio gan y Ceidwadwr David Davies.

Yn ystod y dydd mae disgwyl i aelodau wylio cyflwyniad gan fwrdd gweithredol y maes awyr ac yna ystyried a yw'r manteision masnachol i Faes Awyr Caerdydd yn cael effaith negyddol ar ogledd Cymru a meysydd awyr yn Lloegr.