大象传媒

Breuddwydio am gael y cyfle i ddweud 'ta-ta'

  • Cyhoeddwyd

Ym mis Ionawr 2018, bu farw partner Elin Gwyn, sef Iwan Huws, pan lithrodd wrth ddringo ar fynydd Tryfan. Yn 2015 bu farw ei thad, y Prifardd Gwynfor ab Ifor, yn sydyn. Fel un o awduron y gyfres deledu boblogaidd i blant, Deian a Loli, ar S4C, mae Elin wedi ysgrifennu pennod am farwolaeth, gan obeithio ei fod yn help i blant i ddygymod 芒 cholled a galar.

Yma, mae Elin Gwyn yn ysgrifennu am sut bod ymchwilio i'r bennod Deian a Loli a'r Ffarwel wedi ei helpu hithau i ddelio 芒'i cholled:

Ffynhonnell y llun, Elin Gwyn

Mae 'na flwyddyn wedi pasio bellach ers i mi golli Iwan. Does 'na ddim un rhan o mywyd i lle tydi ei absenoldeb o ddim yno. Roedden ni'n gwneud popeth efo'n gilydd, yn ffrindiau gorau. Dwi am orfod byw efo'r golled am weddill fy oes. Dwi ddim yn unig wedi ei golli o, ond y dyfodol o'n i eisiau.

Mae hi wedi bod yn anodd dod trwy'r flwyddyn gyntaf yma hebddo. Mae byw efo ci gwirion bost yn bendant wedi fy helpu i gadw'n brysur. Dwi'n mwynhau fy swydd efo Cwmni Da, ac mae gennai deulu a ffrindiau anhygoel sydd wir wedi bod yn gefn i mi. Dwi wastad yn mwynhau treulio amser efo teulu Iwan hefyd, mae hynny'n gwneud i ni gyd deimlo'n nes ato.

'Methu amddiffyn plant rhag marwolaeth'

Roedd hi'n anodd dod n么l i'r gwaith ar 么l colli Iwan, ond roedd hi'n help dod n么l i fyd hud Deian a Loli. Roedd Iwan yn ffan mawr o Deian a Loli. Ei claim to fameoedd mai fo oedd wedi adeiladu'r castell lego ar gyfer y bennod gyntaf i mi ei hysgrifennu.

Roedd Angharad Elen, y cynhyrchydd, wedi colli ei mam yn ddiweddar, ac yn awyddus i gael pennod oedd yn trafod marwolaeth. A dwi'n ddiolchgar am ei dewrder hi a Sioned Roberts o S4C, am roi platfform i thema buasai cyfresi plant fel arfer yn ei hosgoi.

Yn anffodus, gallwn ni ddim amddiffyn plant rhag marwolaeth. Felly dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig cyflwyno'r syniad iddyn nhw'n ifanc.

Fe wnes i ymchwil i bortreadau o farwolaeth mewn ffilmiau a chyfresi teledu ar gyfer plant. Pa rai oedd yn llwyddiannus ac yn aflwyddiannus? Y neges glir oeddwn i'n ei chael o'r ymchwil, oedd i wynebu'r pwnc yn blwmp ac yn blaen, dim trosiadau, dim mwytheiriau, dim 'mae hi wedi'n gadael ni' neu 'mae o wedi mynd i gysgu.'

Ffynhonnell y llun, Elin Gwyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Elin Gwyn ar set Deian a Loli

'Pam fod pawb yn crio?'

Roeddwn i wedi bod yn treulio llawer o amser efo Megan Eleri, nith Iwan, oedd yn bedair oed ar y pryd, ac roeddwn i wedi bod yn pendroni am ei dealltwriaeth hi o'r sefyllfa. Roedd hi'n dweud ambell beth bob hyn a hyn oedd yn cyfleu safbwynt plentyn o farwolaeth i mi. Bod Iwan yn y cymylau. Bod Iwan yn edrych lawr arnom ni. Oedd o'n ei gwylio hi tra ei bod hi ar y toilet? ('Sa fo'n chwerthin os oedd o!) Oeddan ni'n cael parti? Pam fod pawb yn crio?

Maen nhw'n dweud bod cael anifail anwes yn ffordd dda i ddysgu plant am gyfrifoldebau, ond maen nhw hefyd yn tueddu i fod yn brofiad cyntaf plentyn 芒 marwolaeth.

Roedd Pitw, y bochdew druan, yn ffordd i Deian a Loli ddysgu am farwolaeth mewn ffordd buasai (gobeithio) ddim yn rhy ddirdynnol i gynulleidfa ifanc.

Ffynhonnell y llun, Lowri Gwyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Deian a Loli yn dweud ffarwel 芒 Pitw'r bochdew

Rhywbeth arall roeddwn i eisiau ei archwilio yn y bennod oedd y syniad o ffarwelio 芒 fy rhwystredigaeth fy hun o fod wedi colli Dad ac Iwan yn ddychrynllyd o sydyn. Llynedd tra roeddwn i'n ysgrifennu'r bennod, mi o'n i'n breuddwydio bron bob nos am gael y cyfle i ddweud 'ta-ta'.

Fe wnes i gyfuno'r elfennau yma i gyd wrth lunio Deian a Loli a'r Ffarwel. Doeddwn i ddim eisiau i'r bennod fod yn rhy drwm, nac ychwaith yn rhy ysgafn, ac fe wnaeth y cast a'r criw waith gwych yn dod 芒'r sgript yn fyw.

Ffynhonnell y llun, Elin Gwyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Elin ac Iwan ar wyliau yn Japan

Ar hyn o bryd, rydw i'n gweithio gyda'r Prifardd Ieuan Wyn a chyhoeddiadau Barddas ar gyfrol o farddoniaeth Dad, Gwynfor ab Ifor. Mae pethau fel hyn yn ffordd i mi sianelu fy ngalar i wneud pethau cadarnhaol.

Dyna ydi Deian a Loli a'r Ffarwel mewn ffordd. Dwi'n falch iawn o'r ymateb i'r bennod, dwi'n falch bod pobl wedi cael eu cyffwrdd gan stori Pitw'r bochdew a'n bod ni wedi cael creu rhaglen i blant sy'n portreadu plant yn dygymod 芒 cholled.

Mae o'n gysur meddwl bod 'Ffarwel' wedi helpu plant a theuluoedd i drafod galar, ac efallai i gael gwell dealltwriaeth o beth mae marwolaeth yn ei olygu.

Ffynhonnell y llun, Elin Gwyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Elin gyda Macsen y ci

Efallai o ddiddordeb: