大象传媒

Mesur yn 'methu cyfle i roi tegwch i bysgotwyr Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Pysgotwr ar ei gwch oddi ar arfordir yr AlbanFfynhonnell y llun, Lluniau Getty

Mae cyfraith newydd i reoli pysgodfeydd y Deyrnas Unedig yn gyfle sydd wedi ei golli i newid system "annheg" y cwot芒u pysgod, yn 么l Aelodau Cynulliad.

Fe fydd y Mesur Pysgodfeydd, os caiff ei basio, yn rheoli pysgota masnachol ar draws y DU yn dilyn Brexit.

Ond yn 么l pwyllgor yn y Cynulliad dyw'r mesur ddim yn mynd i'r afael 芒'r cwot芒u, sydd - yn eu barn nhw - yn atal y diwydiant pysgota yng Nghymru rhag tyfu.

Sicrhau cyfran decach er budd y DU gyfan yw'r flaenoriaeth, medd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd hefyd yn dweud bod y mesur yn creu mwy o bwerau nag erioed o'r blaen i Lywodraeth Cymru.

Yn eu hadroddiad mae Pwyllgor Newid Hinsawdd Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad yn dweud fod Cymru'n cael rhyw 1% o gwota pysgota'r Deyrnas Unedig, o dan y cytundeb sydd mewn lle.

Y cwota yw'r rheolau sy'n pennu faint o bysgod sydd yn bosib i'r pysgotwyr eu dal yn y m么r.

Clywodd y pwyllgor adroddiadau bod pysgotwyr o Gymru'n gorfod sefyll ar y cei a methu mynd i'r m么r i ddal pysgod, oherwydd nad oedd ganddynt y cwot芒u - a'u bod yn gorfod gwylio llongau o wledydd eraill yn mynd 芒'r pysgod hynny.

Dywedodd y pwyllgor nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon i sicrhau gwelliannau yng nghyfran cwota Cymru.

Mae'n rhybuddio Llywodraeth Cymru rhag "hunanfodlonrwydd" ac yn galw ar y llywodraeth i gymryd rhagor o gamau cadarn ar y mater hwn.

Ffynhonnell y llun, Lluniau Getty
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Llywodraeth Cymru mae'n hanfodol bod pysgotwyr Cymru'n cael cyfleoedd pysgota teg

"Bydd gadael y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn gyfle unigryw i'r DU a Chymru ailystyried eu dull gweithredu o ran polisi pysgodfeydd," dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Mike Hedges AC.

"Er mwyn achub ar y cyfleoedd hyn, mae'n hanfodol mynd i'r afael 芒 dyraniad cwota presennol Cymru, yr ydym yn credu ei fod yn sylfaenol annheg.

"Rydym yn dra siomedig bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu na fydd y mater hwn yn cael ei ddatrys wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Oni bai y caiff y mater hwn ei ailystyried, prin fydd y manteision i bysgodfeydd Cymru sy'n codi o Brexit."

Y ffordd orau ymlaen

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi bod yn glir o'r cychwyn y dylsai Cymru gael cyfleoedd pysgota teg ac rydyn ni'n falch fod y pwyllgor yn cytuno gyda ni."

"Nid y Mesur Rheoli Pysgodfeydd ydy'r ffordd orau i fwrw ymlaen gyda'r trafodaethau a fu rhwng y gwahanol Lywodraethau ym Mhrydain, nac ychwaith rhwng yr rhai rhwng Prydain a'r Undeb Ewropeaidd, ac bynciau megis y cwot芒u pysgod.

"Fe fyddwn ni'n parhau gyda'n ymdrechion i ddylanwadu ar y penderfyniadau ar y cwot芒u gyda llywodraethau eraill y DU fel rhan o drafodaethau ar wah芒n... ac fe fyddwn ni'n ymateb yn swyddogol i gynnwys adroddiad y pwyllgor maes o law."

Dywedodd llefarydd ar ran Defra, yr adran yn San Steffan sy'n gyfrifol am bysgota a'r amgylchedd: "Mae'n anghywir i ddweud nad yw'r Mesur Pysgodfeydd yn delifro er budd diwydiant pysgota Cymru. Mae'r mesur yn creu mwy o bwerau nag erioed o'r blaen i Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

"Roedd ein papur gwyn pysgofeydd yn gwneud hi'n glir y bydd yna drafodaethau rhwng gweinyddiaethau datganoledig ynghylch dosbarthu cwota ychwanegol ar draws y DU. Mater i Lywodraeth Cymru fyddai wedyn i benderfynu sut mae'n dosrannu unrhyw gwota ychwangol mae'n ei dderbyn.

"Ein blaenoriaeth yw sicrhau cyfran decach er budd y DU gyfan, a does dim angen deddfwriaeth newydd ynghylch cyfrannau cwota."