Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gethin Jones: Y gwir am y merched yn y penawdau
Mae bywyd carwriaethol y cyflwynydd Gethin Jones wedi bod yn y penawdau yn gyson dros y blynyddoedd - ond mae'r wasg o hyd yn ei gysylltu gyda'r merched anghywir, meddai.
Mae'r cyflwynydd o Gaerdydd, ddaeth i enwogrwydd gyda Blue Peter a Strictly Come Dancing, wedi bod yn trafod ei fywyd ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul.
Mewn cyfweliad i gyd-fynd 芒'i ben-blwydd yn 41, mae o hefyd yn s么n bod gweithio yn y byd teledu yn Lloegr yn haws nag yng Nghymru ac yn dweud mai ei freuddwyd ydi sefydlu ysgol i blant gydag awtistiaeth.
Wrth drafod diddordeb y wasg yn ei fywyd carwriaethol, meddai Gethin:
"Be' sy'n od yw, dyw ddim un ohonyn nhw'n wir. Mae'r enwau maen nhw'n rhoi yn y wasg, wel nid dyna'r merched dwi wedi bod mas gyda nhw... ffrindiau mawr ydi nhw.
"Unwaith, ar yr un pryd 摆芒 rhai o'r penawdau] o'n i'n mynd mas gydag actores eitha enwog - wel enwog iawn - yn America ac roedd hi'n gofyn i mi 'pwy yw'r merched yma?'... a ddudes i 'wel 'sai'n gwybod'. Y j么c oedd doedd y wasg ddim yn gwybod bod fi'n mynd mas gyda hi!
"Mae o bach yn od achos dwi'n fachgen o Gaerdydd a sgen i ddim byd i guddio. Ambell waith dwi'n meddwl 'wel beth yw'r big deal'?
"Mae mates fi'n tecstio fi, a'r gr诺p Whatsapp yn mynd yn mad, a fi'n meddwl 'bois, na na'."
Y s茂on am Cheryl
Yn ddiweddar bu'r cyfryngau'n llawn o s茂on amdano ef a Cheryl (gynt o'r band Girls Aloud).
Roedd y ddau wedi cyfarfod pan oedd o'n ei chyfweld ar gyfer ei raglen ar Hits Radio.
Rhoddodd lun o'r ddau ohonyn nhw ar ei gyfrif Instagram, wnaeth arwain at benawdau a sylwadau di-ri.
Hefyd efallai o ddiddordeb:
Meddai: "Nes i gyfweld 芒 Cheryl ac roedd hi'n hyfryd... a be' sy'n od efo hi ydy, chi'n cyfarfod rhywun a chi'n meddwl 'mae hi'n neis' ond mae hi mor enwog mae popeth mae hi'n 'neud yn cael sylwad neu mae'r wasg eisiau gwybod amdano fe. Wedyn mae'n anodd iawn i greu unrhywbeth naturiol gyda rhywun, achos y wasg neu'r social media sy'n rhan ohono fe...
"Oedd e ddim bod fi ddim wedi gwrthod, na, ond bach mwy cymhleth na hynny."
Haws cael gwaith yn Lloegr
Fe ddechreuodd Gethin Jones ei yrfa ar S4C yn cyflwyno Popty gydag Alex Jones a Sarra Elgan.
Mae'r tri wedi mynd yn eu blaenau i gyflwyno rhaglenni poblogaidd yn Lloegr, lle mae'r gwaith yn rhwyddach yn 么l Gethin.
Meddai: "Be' sy'n od gyda darlledu yng Nghymru yw'r cyfleodd a pha mor anodd ydi hi i'w gwneud hi yng Nghymru i gymharu 芒 beth yw e yn Lloegr.
"Mae Alex nawr yn neud y job hawsa' mae hi erioed wedi 'neud. Dim ond am chwe munud - neu bump weithiau - maen nhw'n fyw ar y One Show, ond mae Alex wedi 'neud Eisteddfodau, mae hi wedi gwneud sioeau gyda fi oedd yn hollol fyw am ddwy neu dair awr.
"Sarra 'run peth - roedd hi'n neud y Saturday Show ar 大象传媒 ac roedd hi'n ffeindio fe'n hawdd achos roedd hi wedi cael fel y graduation yma ar S4C.
"A fi'n si诺r bod lot yn dweud pam wnaetho chi adael? Pam wnaetho chi ddim aros i neud y gwaith fan hyn? Wel doedd dim digon o waith.
"A wedyn, pam fyddet ti ddim yn mynd am job ar y One Show neu fel Sarra nawr yn neud y rygbi neu fi'n 'neud Blue Peter?"
A'i uchelgais mewn bywyd? Datblygu'r elusen Nai, wnaeth o sefydlu dwy flynedd yn 么l gyda'i ffrind oherwydd fod gan y ddau ohonyn nhw nai awtistig.
Y bwriad yn y pendraw ydi sefydlu ysgol arbennig i blant gydag awtistiaeth.
Meddai Gethin Jones am ei nai: "Mae e'n amazing - ffrind gorau - o'n i ddim yn gwybod bod chi'n gallu caru rhywun gymaint 芒 be' fi'n caru Albi."