Cynghorau methu delio 芒 rhai mathau o blastigion
- Cyhoeddwyd
Mae wedi dod i'r amlwg nad yw'r mwyafrif o gynghorau Cymru 芒'r gallu i ddelio 芒 phlastigion sydd wedi'u gwneud o blanhigion ac sy'n gallu cael eu compostio.
Mae twf yr ymgyrch i beidio defnyddio plastigion un tro wedi gweld cynnydd yn nifer y busnesau sy'n gwerthu bwyd a diod mewn cynhwyswyr sy'n gallu cael eu compostio.
Ond o'r holl gynghorau wnaeth ymateb i 大象传媒 Cymru, dim ond Caerffili sy'n casglu a chompostio eitemau o'r fath.
Mae hynny'n golygu bod y gweddill yn debygol o orfod eu gyrru i gladdfeydd sbwriel.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod galwadau i fuddsoddi mewn gwasanaethau compostio.
Mae'r dechnoleg wedi symud yn ei blaen mor gyflym fel ei bod yn anodd dweud pa boteli sy'n rhai wedi'u gwneud o blanhigion a pha rai sy'n blastig arferol.
Mae nifer o gwmn茂au sy'n gwerthu bwyd a diod wedi troi at y rheiny mewn ymdrech i fod yn well i'r amgylchedd.
Ond dywedodd mae diffyg llefydd i'w compostio yn golygu eu bod yn aml yn mynd i gladdfeydd sbwriel.
'Dim parodrwydd i newid'
Fe wnaeth 大象传媒 Cymru ofyn i holl gynghorau Cymru os ydyn nhw'n casglu a chompostio deunyddiau sydd wedi'u gwneud o blastig.
O'r 13 wnaeth ymateb dim ond Caerffili sy'n cynnig gwasanaeth o'r fath, a dywedodd Cyngor Gwynedd ei fod yn ymchwilio i'r posibilrwydd o wneud.
Mae Kate Reed - perchennog Tafell a T芒n, cwmni arlwyo yn Llangrannog, Ceredigion - yn defnyddio cynhwyswyr wedi'u gwneud o blanhigion gan gwmni Vegware yn Yr Alban.
Roedd hi'n credu bod modd eu rhoi i ailgylchu gyda gwastraff bwyd, ond cafodd sioc pan ddywedodd Cyngor Ceredigion y dylai hi gael gwared arnyn nhw gyda'i gwastraff cyffredinol.
"Mae'n gymaint o drueni pan mae pobl yn mynd i ymdrech," meddai.
"Mae'n bryder ein bod eisiau hyrwyddo cynaliadwyedd yn ein busnes, ond ddim yn gallu gwneud hynny.
"Pe bai Cyngor Ceredigion yn gweithio gyda ni a busnesau eraill efallai y byddai modd gwneud rhywbeth, ond does dim parodrwydd i newid o gwbl ar eu rhan nhw."
Gwrthod yr awgrym
Mae Cyngor Ceredigion wedi dweud na fyddan nhw'n cynnig casglu deunydd sy'n gallu cael eu compostio, a hynny oherwydd y gost.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru wrthod yr awgrym y dylai fuddsoddi mewn gwasanaethau compostio.
"Mae gennym hanes hir o osod polisi amgylcheddol sydd wedi'i seilio ar dystiolaeth a ry'n ni'n bwriadu parhau fel hyn yn hytrach na rhoi datrysiadau dros dro i broblemau fel yma, heb wybod a fyddan nhw'n gweithio yn y tymor hir," meddai llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd8 Mai 2018
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2018