大象传媒

Cynllun newydd i ailgyflwyno eryrod aur i Eryri?

  • Cyhoeddwyd
Eryr Aur
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gall adenydd eryr aur ymestyn ymhell dros chwe troedfedd

Mae rhaglen Countryfile y 大象传媒 yn bwriadu datgelu cynllun i ail-gyflwyno eryrod aur i rannau o Gymru.

Fe ddiflannodd yr adar o Gymru tua 200 mlynedd yn 么l, ac mae'r niferoedd wedi lleihau yn ddramatig ar hyd y DU o ganlyniad i hela ac erledigaeth.

Nawr mae Prifysgol Caerdydd yn ymchwilio i'r posibilrwydd o ailgyflwyno'r rhywogaeth.

Mae poblogaeth yr adar yn Ewrop yn fychan iawn ac yn dirywio ymhellach, yn bennaf oherwydd erlidigaeth a cholli cynefinoedd.

Bydd ymchwilwyr y brifysgol yn cynnal astudiaeth i weld a oes modd eu hailgyflwyno.

Eryri yw'r ardal sydd wedi ei hamlygu fel man ar gyfer ailgyflwyno'r rhywogaeth.

Nid yw'r cynlluniau yn boblogaidd ymysg rhai ffermwyr, sy'n poeni y gallai'r adar - sydd ag adenydd all ymestyn dros ddau fetr - ymosod ar 诺yn.

Mewn rhaglen arbennig, bydd Countryfile yn arddangos y cynlluniau yn dilyn llwyddiant prosiectau tebyg yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ddydd Mawrth, 19 Chwefror am 09:15, ac hefyd ar 大象传媒 iPlayer.