大象传媒

Sioe Ray Gravell yn ysbrydoli carfan rygbi Cymru

  • Cyhoeddwyd
Gareth John Bale mewn golygfa deimladwy o'r sioe 'Grav'Ffynhonnell y llun, Ceri Coleman Phillips
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gareth John Bale mewn golygfa deimladwy o'r sioe 'Grav'

Sioe un dyn am y diweddar Ray Gravell sydd wedi bod yn ysbrydoli carfan rygbi Cymru cyn y g锚m fawr yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn.

Cafodd chwaraewyr a th卯m hyfforddi Cymru gyfle i wylio perfformiad preifat o'r sioe 'Grav' yn ystafell newid yr hen elyn yn Stadiwm Principality nos Lun.

Bu farw'r cyn-seren rygbi a'r darlledwr Ray Gravell yn dilyn salwch tra ar wyliau teuluol yn Sbaen yn 2007.

Mae sioe un dyn am ei fywyd yn cael ei berfformio gan yr actor - ac nid y p锚l-droediwr - Gareth Bale.

"Roedd yn brofiad ffantastig, a dylen ni fod wedi chwarae'n syth ar 么l hynny, i fod yn onest 芒 chi," meddai hyfforddwr cynorthwyol Cymru, Robin McBryde.

"Mae'n ein rhoi mewn lle da yn feddyliol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd McBryde yn siarad mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mawrth

"Roedd y profiad yn eich atgoffa o'r rhesymau pam fod rhai ohonom yn chwarae rygbi a pham fod rhai ohonom ni sydd ddim yn ei chwarae mwyach yn ei golli gymaint.

"Os gallwn mewn unrhyw fodd berfformio fel gwnaeth Gareth Bale neithiwr nos Sadwrn, does dim ots os yw'r to yn agored neu ar gau, dim ond un canlyniad fydd."

Halfpenny yn 么l?

Mae'r cefnwr Leigh Halfpenny a'r maswr Dan Biggar yn ymarfer gyda'r garfan cyn y g锚m ddydd Sadwrn yn dilyn anafiadau.

Dyw Cymru na Lloegr heb golli g锚m ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni - gyda Chymru ar rediad o 11 buddugoliaeth yn olynol.

"Mae rhywun yn teimlo bod hon yn g锚m anferth," meddai McBryde.

"Gall hon fynd dipyn o ffordd i benderfynu pwy sy'n cipio'r tlws ar ddiwedd y bencampwriaeth."