大象传媒

Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn parhau dan fesurau arbennig

  • Cyhoeddwyd
Betsi Cadwaladr

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn parhau i fod dan fesurau arbennig.

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn cyfarfod gr诺p oedd yn ystyried ansawdd, perfformiad gwasanaethau a rheolaeth ariannol pob un o fyrddau iechyd Cymru.

Yn 么l adroddiad mae "cynnydd wedi bod mewn sawl maes" ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ond maen nhw'n dal i wynebu "agenda wella heriol".

Dywedodd y llywodraeth bod gwasanaethau y tu allan i oriau bellach allan o fesurau arbennig, ond bod "gwaith i'w wneud o hyd".

Dywedodd Plaid Cymru bod "sawl problem fawr" yn parhau.

'Gwaith pellach i'w wneud'

Mae'r bwrdd iechyd sy'n gwasanaethu cleifion yng ngogledd Cymru wedi bod mewn mesurau arbennig ers Mehefin 2015.

Y sefydliadau oedd yn trafod y sefyllfa oedd y llywodraeth, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Cadarnhaodd y llywodraeth bod y "gwasanaeth y tu allan i oriau wedi'i dynnu o'r mesurau arbennig" yn sgil "cynnydd yn cael ei wneud ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr diolch i waith caled ac ymdrech barhaus staff y GIG ledled Gogledd Cymru".

"Mae gwaith i'w wneud o hyd ac rydym wedi rhoi cymorth dwysach ar waith yn y Bwrdd Iechyd. Penodwyd Cadeirydd newydd i helpu i fwrw ymlaen 芒'r gwelliannau," meddai llefarydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dylai'r Ysgrifennydd Iechyd gymryd cyfrifoldeb o berfformiad y byrddau iechyd yn 么l AC Plaid Cymru, Llyr Gruffydd

Llynedd ar lawr y Senedd, dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething ei fod yn pryderu am ddirywiad ym mherfformiad Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Roedd ei bryderon yn ymwneud ag amseroedd aros, gofal sydd heb ei drefnu o flaen llaw, trefniadau cynllunio a rheoli ariannol.

Wrth ymateb i statws Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, dywedodd AC Plaid Cymru dros ogledd Cymru, Llyr Gruffydd bod "unrhyw welliant i berfformiad [y bwrdd] i'w groesawu", ond bod "sawl problem fawr" yn parhau.

"Mae dros 拢30m yn cael ei wario'n flynyddol ar staff asiantaeth er bod 1,400 o swyddi gwag, gan gynnwys 565 o nyrsys.

"Roedd bod mewn mesurau arbennig i fod yn rhywbeth dros dro, ond rydym bron i bedair blynedd fewn dan reolaeth Llywodraeth Cymru.

"Mae'n rhaid i'r Ysgrifennydd Iechyd gymryd cyfrifoldeb o berfformiad bwrdd iechyd, ond nid yw'n dangos unrhyw arwydd ei fod ar fin ymddiheuro am y problemau parhaus mae cleifion a staff yn eu hwynebu."

Yn 么l yr adroddiad yr unig fwrdd iechyd arall i weld newid mewn perfformiad ydy Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sy'n "parhau i fod ymhlith y goreuon yng Nghymru".

Roedd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro "ymysg y gorau ym meysydd perfformiad allweddol" ac maen nhw ar y "trywydd iawn o ran cyrraedd ei gyfanswm rheolaeth ariannol ar ddiwedd Mawrth".