大象传媒

Beirniadu 'diffyg buddsoddiad' yn rheilffyrdd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Trafnidiaeth CymruFfynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cwmni Trafnidiaeth Cymru sydd bellach yn rhedeg gwasanaeth Cymru a'r Gororau

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards wedi beirniadu'r "diffyg buddsoddiad" yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru.

Yn siarad mewn dadl yn Neuadd Westminster dywedodd nad oedd yn "galw am reilffordd gyflym" rhwng gogledd a de Cymru.

"Dydw i ddim hyd yn oed yn galw am reilffordd wedi'i drydaneiddio," meddai.

"Yr hyn rwy'n gofyn amdano yw rheilffordd fel y gall pobl fy ngwlad deithio ar dr锚n rhwng gogledd a de eu gwlad eu hunain heb orfod ei adael."

Ychwanegodd yr AS Llafur Chris Elmore bod angen i Lywodraeth y DU fuddsoddi a "gwneud eu swyddi".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Jonathan Edwards bod angen cyswllt rheilffordd rhwng y gogledd a'r de

Wrth ymateb, dywedodd yr is-weinidog trafnidiaeth, Andrew Jones bod y llywodraeth yn "cydnabod" pwysigrwydd y rheilffyrdd a bod Network Rail wedi buddsoddi 拢900m yn rhwydwaith Cymru ers 2014.

Ychwanegodd bod arolwg rheilffyrdd Williams, sy'n edrych ar strwythur y diwydiant, hefyd yn cynnwys arolwg o'r trefniadau datganoledig.

"Rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld mwy o wasanaethau'n cael eu datganoli," meddai.

Bydd adroddiad Williams yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref eleni.