Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Canolfan dwristiaeth Caernarfon i ailagor?
Gall canolfan dwristiaeth yng Nghaernarfon a gaeodd ddwy flynedd yn 么l ailagor os bydd cynghorau'n dod i gytundeb.
Bu'n rhaid i'r ganolfan, a oedd yn rhan o Oriel Pendeitsh yn y dref, gau ym mis Tachwedd 2016 wrth i Gyngor Gwynedd wneud toriadau i'w cyllideb.
Ond fe all y ganolfan agor ei drysau eto wedi i'r cyngor sir gytuno i osod yr adnodd ar brydles i'r cyngor tref.
Y bwriad ydy mai prosiect HWB Caernarfon fydd yn rhedeg y ganolfan o ddydd i ddydd.
Mae ailagor y ganolfan yn "rhan bwysig" o fwriad HWB i adfywio canol y dref, yn 么l adroddiad gan y cyngor sir.