Llai yn astudio TGAU ieithoedd tramor modern
- Cyhoeddwyd
Mae'r amser sy'n cael ei roi i bynciau "craidd" fel Bagloriaeth Cymru o fewn amserlen ysgolion yn cael effaith fawr ar ddysgu ieithoedd, yn 么l arolwg gan y 大象传媒.
Mae'r atebion yn awgrymu hefyd bod argraff fod y cyrsiau yn rhy anodd yn golygu bod disgyblion yn amharod i astudio pynciau fel Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg.
Fe wnaeth dros hanner ysgolion uwchradd a cholegau Cymru ymateb i'r arolwg am ieithoedd tramor modern.
Roedd yna ostyngiad o 29% yn nifer yr arholiadau TGAU ieithoedd gafodd eu sefyll yng Nghymru dros bum mlynedd - cwymp mwy nac yn unrhyw ran arall o'r DU.
Rhesymau
Cafodd ysgolion eu holi am newidiadau i'r ddarpariaeth ar gyfer ieithoedd tramor modern dros y pum mlynedd diwethaf.
Roedd 71% o'r atebion yn dweud bod pynciau "craidd" yn yr amserlen fel mathemateg, gwyddoniaeth a'r Fagloriaeth wedi arwain at ostyngiad yn y ddarpariaeth. Fe wnaeth nifer o athrawon grybwyll effaith y Fagloriaeth mewn sylwadau ychwanegol gan ddweud bod ei wneud yn orfodol i ddisgyblion oedran TGAU yn lleihau eu dewisiadau. Fe wnaeth eraill s么n am y Gymraeg a dweud bod rhai disgyblion yn ystyried gwneud Cymraeg fel gwneud iaith ychwanegol a'u bod felly'n llai tebygol o astudio iaith dramor;
Gyda rhestr o ddewisiadau posib yngl欧n 芒 beth sydd yn cael yr effaith mwyaf ar ieithoedd tramor modern, dywedodd 77% bod y syniad bod ieithoedd yn rhy anodd yn ffactor ganolog, a dywedodd 57% bod disgyblion 芒 llai o ddiddordeb mewn astudio iaith;
Roedd 35% o ysgolion wedi gostwng un neu fwy o ieithoedd TGAU;
Dywedodd 37% bod yna ostyngiad yn nifer yr ymweliadau 芒 chynlluniau cyfnewid wedi bod;
Yn 么l chwarter yr atebion mae'r gyllideb ar gyfer ieithoedd tramor modern yn eu hysgol wedi gostwng yn sylweddol;
Er bod 59% yn dweud bod 'na ddim newid wedi bod i nifer y staff arbenigol, dywedodd 36% bod yna ostyngiad wedi bod yn eu hysgol nhw;
Dywedodd 57% bod yna ostyngiad wedi bod yn nifer yr oriau dysgu ieithoedd modern i blant 11 i 14 oed - dywedodd traean nad oedd newid wedi bod.
Fe wnaeth y 大象传媒 hefyd asesu data swyddogol yngl欧n 芒 nifer y rhai oedd wedi sefyll arholiadau TGAU neu gymwysterau tebyg mewn ieithoedd a chanfod bod 'na gwymp o 29% wedi bod yng Nghymru dros bum mlynedd.
Roedd hynny'n cymharu gyda chwymp o 11% yn Lloegr, 12% yng Ngogledd Iwerddon a 19% yn Yr Alban.
Yn Sir Benfro a Thorfaen fe hanerodd nifer y TGAU rhwng 2013 a 2017 - lawr 52% a 48%.
Roedd y ddwy ardal ymhlith y 10 awdurdod lleol ar draws y DU i weld y gostyngiad mwyaf.
Dim ond yn Ynys M么n yr oedd cynnydd, a hynny 12%, a gwelodd Caerdydd y gostyngiad lleiaf o 9%.
Lleihau dewisiadau
Fe wnaeth nifer o sylwadau grybwyll bod gwneud y Fagloriaeth yn "orfodol" i ddisgyblion oedran TGAU wedi bod yn ergyd i ieithoedd tramor, am fod hynny wedi lleihau dewisiadau disgyblion.
Mae gwersi wedi mynd at bynciau gorfodol gan gynnwys y Fagloriaeth, ac mae gwneud gwyddoniaeth dwbl a dau gymhwyster mathemateg yn orfodol i bawb hefyd wedi cael effaith ar y gallu i gynnig yr un nifer o bynciau i ddysgwyr.
Mae yna flaenoriaeth sylweddol yn cael ei rhoi i fathemateg a'r Fagloriaeth, sydd yn bwysau ychwanegol ar blant, meddai nifer o'r sylwadau.
Mae Gwyddoniaeth Triphlyg bellach yn opsiwn TGAU hefyd, sy'n gwneud y gwaith o ddenu plant i astudio ieithoedd yn fwy anodd.
Cafodd yr arolwg ei yrru i 219 ysgol a choleg fel rhan o arolwg 大象传媒 Cymru ac mae'r canlyniadau'n seiliedig ar 134 ymateb.
Roedd Arolwg Ysgolion y 大象传媒 yn arolwg anhysbys o ysgolion uwchradd a cholegau.
Fe wnaeth dros 2,000 o ysgolion gymryd rhan ar draws Lloegr, Gogledd Iwerddon, Cymru a'r Alban gan wneud yr arolwg y mwyaf o'i fath.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2018