大象传媒

'Cost bywyd ysgol yn rhy ddrud i rai rhieni'

  • Cyhoeddwyd
Children in a playground

Mae cost bywyd ysgol - fel gwisg, cinio a theithiau - yn effeithio'n annheg ar deuluoedd tlotaf Cymru, yn 么l y Comisiynydd Plant, Sally Holland.

Mae ei "siarter am newid" yn herio'r llywodraeth i "adfer yr uchelgais" o ddelio gyda materion a allai effeithio ar addysg plant.

Mae Ms Holland wedi casglu tystiolaeth gan 550 o blant, rhieni ac athrawon.

Dywedodd: "Mae'r amser wedi dod i ysgolion asesu cost diwrnod ysgol."

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod "cynlluniau eisoes ar y gweill" i ddelio 芒'r argymhellion.

Disgrifiad,

Angen gwneud rhagor i helpu teuluoedd gyda chostau addysg, medd y Comisiynydd Plant

Ychwanegodd Ms Holland: "Ry'n ni'n gwybod fod y cyfan yn llawer mwy na'r hyn sy'n digwydd yn yr ystafell ddosbarth - y pethau ychwanegol 'na all fod o fudd i addysg plentyn - y gwersi cerdd, chwaraeon a theithiau.

"Mae rhai ysgolion yn llwyddo'n dda ond maent yn cael eu rhwystro gan gyllid isel - mae yna botensial i'r llywodraeth ehangu'r grantiau ond mae angen i ysgolion feddwl a yw'n angenrheidiol anfon plant ar dripiau drud yn lle taith sy'n fwy fforddiadwy i bawb."

Ffynhonnell y llun, Maica/Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn aml teuluoedd nad ydynt yn cael cinio ysgol am ddim sydd methu fforddio bwyd

Rhai o'r materion sy'n achosi pryder

Mae nifer o deuluoedd, nad ydynt yn cael cinio ysgol am ddim, yn ei chael hi'n anodd prynu bwyd a gall plant wynebu dewisiadau anodd adeg egwyl ac amser cinio.

Hefyd mae gormod o blant wedi cofrestru ar gyfer clybiau brecwast a does dim lle. Mewn un ysgol roedd rhaid i blant dalu am dd诺r.

Mae rhai teuluoedd yn ddibynnol ar fanciau bwyd yn ystod y gwyliau - mae cynlluniau sy'n cyfuno bwyd a gweithgareddau corfforol yn ystod y gwyliau wedi profi'n llwyddiannus ac angen eu ehangu.

Mae cost dillad ysgol yn "bryder parhaol". Dywedodd un plentyn: "Roedd gen i'r un p芒r o sgidiau am bum mlynedd a byddai fy rhieni yn prynu dillad ysgol a fyddai'n rhy fawr - byddai fy ngwisg wastad yn edrych yn fl锚r ac 么l traul arni."

Daeth ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar sut mae gwneud gwisg ysgol yn fwy fforddiadwy i ben fis diwethaf.

Roedd tlodi misglwyf yn bwnc a gafodd ei godi gan ferched. Roedd eraill yn ei chael hi'n anodd prynu nwyddau fel past dannedd, sebon a rhai yn poeni am gostau br锚s dannedd a sbectol.

Dywedodd rhai bod tlodi yn gallu arwain at fwlio a thyndra.

Roedd peidio cael mynediad i dechnoleg yn broblem i ambell ddisgybl wrth i rai ysgolion fynnu bod gwaith cartref yn cael ei ebostio.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae David a Joel ymhlith y rhai sy'n cynghori'r Comisiynydd Plant

Dywedodd eraill bod costau tripiau ysgol yn gallu bod yn broblem, ac yn 么l rhai mae cystadleuaeth rhwng ysgolion yngl欧n 芒'r hyn sy'n cael ei gynnig.

Un awgrym oedd y gallai undebau credyd fod yn ffordd o gynilo ar gyfer tripiau.

Nododd eraill bod digwyddiadau ysgol fel proms, lluniau a diwrnodau gwisg arbennig yn ddrud.

Roedd rhai yn gweld gweithgareddau chwaraeon yn broblem - gan gynnwys pris dillad chwaraeon.

Yn ogystal 芒 holi 300 o rieni a siarad ag arbenigwyr fe wnaeth y comisiynydd gynnal gweithdai gyda 550 o blant oed pump a throsodd.

Ymhlith yr argymhellion roedd pasio gwisg ysgol a oedd yn rhy fach ymlaen i ddisgyblion eraill.

Roedd yna awgrym hefyd y dylid edrych o'r newydd ar criteria cinio ysgol am ddim wrth i blant, na sy'n gymwys, ddweud eu bod yn llwgu.

Y llynedd roedd 75,000 o blant, oed pump i 15, yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim yng Nghymru - 16%.

Mae'r adroddiad yn nodi ymhellach y dylid ystyried cynllun tebyg i Glasgow lle mae rhieni sy'n cael cymorth i dalu am lety a threth cyngor yn cael grant gwisg ysgol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r adroddiad ac yn dweud bod "gwaith yn mynd rhagddo" i gwrdd 芒'r gofynion gan gynnwys mwy o gyllid i gronfa Grant Datblygu Disgyblion, edrych o'r newydd ar wisg ysgol a chinio ysgol am ddim.

Dywedodd llefarydd: "Mae'r adroddiad yn sicrhau bod ein rhaglenni yn cael yr effaith orau posib ar daclo tlodi ac yn cwrdd 芒 gofynion y rhai sy'n ddibynnol ar y cynlluniau hynny."