大象传媒

Mark Drakeford: 'Angen adfer enw da Llafur'

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mark Drakeford nad oes lle i wrth-Semitiaeth yn y Blaid Lafur

Mae angen i'r Blaid Lafur adfer ei henw da wrth iddi fynd i'r afael 芒 gwrth-Semitiaeth, yn 么l Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford.

Daw ei sylwadau yn sgil ffrae o fewn y blaid yngl欧n 芒 sut mae'r arweinyddiaeth wedi delio gyda honiadau o wrth-Semitiaeth ymhlith yr aelodaeth.

Dywedodd Mr Drakeford mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun fod y mater wedi niweidio enw da'r blaid.

"Does yna'r un blaid sy'n rhydd o ragfarn," meddai gan ychwanegu nad oes "dim lle o gwbl i hyn yn y Blaid Lafur" na thu hwnt.

Dros y penwythnos fe wnaeth John McDonnell, canghellor yr wrthblaid, gefnogi sylwadau Jennie Formby, ysgrifennydd cyffredinol y blaid, wnaeth gyhuddo Tom Watson, dirprwy arweinydd Llafur, o ymddygiad "annerbyniol" ar 么l iddo ofyn i aelodau seneddol anfon cwynion am sylwadau gwrth-Semitiaeth iddo ef yn ogystal ag i'r blaid yn ganolog.

'Ymdrin yn gyflym'

Dywedodd Mr Drakeford: "Does yna'n bendant ddim lle o gwbl o fewn y Blaid Lafur nac yn ehangach yng ngwleidyddiaeth Cymru am wrth-Semitiaeth.

"Lle mae yna enghreifftiau yn cael eu darganfod yna mae'n rhaid ymdrin 芒 nhw yn gyflym ac yn drwyadl.

"Dwi ddim yn credu ei bod yn annheg i ddweud fod yn rhaid i Lafur adfer tir, lle gallwn ddweud mai dyma'r modd rydym yn ymateb i ddigwyddiadau o'r fath, ond yn y cyfamser mae'r bennod yma wedi gwneud niwed i enw da'r Blaid Lafur."

Pan ofynnwyd iddo a oedd yna gynnydd mewn gwth-Seimitiaeth wedi bod, dywedodd: "Beth rwy'n credu i mi weld yw pan fod pwnc yn dod yn fwy blaenllaw, yna mae pethau oedd yna drwy gydol yr amser yn cael eu gweld mewn modd gwahanol.

"Fy mhrofiad yw nad oes mwy o rywbeth, ond fod y sylw sy'n cael ei roi i bwnc yn golygu ein bod yn fwy ymwybodol o beth oedd yna yn y lle cyntaf.

"Does yr un blaid yn rhydd o ragfarn, ac mae Llafur yn blaid ag aelodaeth sylweddol, gyda nifer o bobl wedi ymuno yn ddiweddar."