Penaethiaid rygbi i drafod uno'r Scarlets a'r Gweilch
- Cyhoeddwyd
Bydd penaethiaid rygbi yn cwrdd ddydd Mawrth i drafod y posibilrwydd o uno'r Scarlets a'r Gweilch.
Y Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB) fydd yn trafod y syniad - y cam mwyaf eithafol o ran newid rygbi rhanbarthol yng Nghymru ers 2003.
Mae ffigyrau amlwg o fewn rygbi'r undeb yng Nghymru yn awyddus i weld t卯m proffesiynol yn cael ei ddatblygu yn y gogledd.
Byddai pedwar rhanbarth proffesiynol yn parhau i weithredu yng Nghymru - un yr un yn y gogledd, de, gorllewin a dwyrain.
Ansicrwydd
Mae'r trafodaethau blaenorol o uno'r Gweilch a'r Gleision wedi methu.
Mae'r PRB yn cynnwys cynrychiolydd o'r pedwar rhanbarth presennol yng Nghymru ac un cynrychiolydd o Undeb Rygbi Cymru.
Does dim penderfyniad terfynol wedi cael ei wneud hyd yma, ac mae ansicrwydd yngl欧n 芒'r ffaith os mai uno fydd ffawd y ddau glwb o'r gorllewin.
Yn draddodiadol, mae gelyniaeth leol rhwng y Scarlets a'r Gweilch.
Dyma'r ddau glwb mwyaf llwyddiannus yng Nghymru ers i rygbi rhanbarthol gael ei gyflwyno yn 2003.
Mae'r Gweilch wedi ennill y gynghrair bedair gwaith, a daeth llwyddiant mwyaf diweddar y Scarlets yn 2017 pan lwyddon nhw i ennill tlws y Pro12.
Enw a liw crys?
Os fydd y syniad yn cael ei dderbyn, bydd penderfyniad i ddilyn yngl欧n ag enw a lliw crysau'r t卯m newydd, a ble bydd y gemau cartref yn cael eu cynnal.
Nid yw Undeb Rygbi Cymru wedi gwneud unrhyw sylw yn gyhoeddus yngl欧n 芒'r prosiect ers i ddatganiad gael ei ryddhau ar 10 Ionawr oedd yn cadarnhau na fydden nhw'n camu'n 么l rhag gwneud penderfyniadau anodd.
Fe wnaeth ambell i aelod pryderus o garfan Cymru gwrdd 芒 phrif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips yr wythnos ddiwethaf i drafod dyfodol rygbi rhanbarthol yng Nghymru.
Fe wnaeth Cymdeithas Cefnogwyr Unedig Cymru (JSB Cymru), sy'n cynrychioli cefnogwyr y pedwar rhanbarth, hefyd gwrdd 芒 Mr Phillips a chyfarwyddwr perfformiad Undeb Rygbi Cymru, Ryan Jones, nos Lun.
Mewn datganiad, dywedodd JSB Cymru: "Fe gawsom drafodaethau agored yngl欧n 芒'r prosiect ac rydym wedi cael clywed fod cyfarfod pwysig yfory."