Cwestiynu penderfyniad cyngor i werthu canolfan Bodffordd
- Cyhoeddwyd
Mae pobl ym Modffordd fu'n gyfrifol am godi arian ar gyfer rhan o'r gwaith i adeiladu canolfan gymunedol yn cynnal cyfarfod, wedi iddi ddod i'r amlwg bod Cyngor M么n am werthu'r safle.
Mae ysgol gynradd Bodffordd a'r ganolfan gymunedol, sy'n rhannu'r safle, ar fin cau yn sgil cynlluniau Cyngor M么n i ad-drefnu addysg yn y sir, er gwaethaf gwrthwynebiad lleol.
Bwriad y cyngor yw gwerthu'r adeiladau ar y safle, ond mae'r pentrefwyr wedi honni mai pobl leol fu'n gyfrifol am godi hanner yr arian oedd ei angen i adeiladu'r ganolfan gymunedol.
Dywedodd Cyngor M么n nad ydynt yn ymwybodol o unrhyw dystiolaeth i brofi nad yr awdurdod lleol oedd yn berchen ar y safle gyfan.
'Rhan hanfodol bwysig'
Llwyddodd y gymuned i godi 拢17,000, gyda Chyngor Gwynedd - cyn ad-drefnu'r awdurdodau lleol - yn talu'r hanner arall dros 30 mlynedd yn 么l.
Ar y Post Cyntaf, dywedodd un fu'n hel arian ar gyfer y ganolfan yn yr 80au, Elis Wyn Roberts bod "y ganolfan yn rhan hanfodol bwysig o'r pentre' heb os nac oni bai".
Dywedodd y buodd 'na "weithio caled" ond nad oedd trafodaeth ar y pryd o ran perchnogaeth.
"Rhyw ffordd neu gilydd dwi'n meddwl aeth y peth o'n dwylo ni pan ddaru Cyngor M么n ddod i rym...
"Wel doedd 'na ddim byd wedi ei arwyddo, 'da ni'n derbyn hynny."
Dywedodd y Cynghorydd Bob Parry ei fod yn "berffaith gywir" bod pobl leol wedi casglu arian, ond nad oedd cytundeb i nodi hynny.
"Ar 么l i Gyngor Gwynedd ddod yn Gyngor M么n - yna mi oedd yr ysgol yn ei chyfanrwydd a'r neuadd yn dod drosto..."
Ychwanegodd y bydd trafodaeth ynghylch y ganolfan, a'i fod yn "si诺r allwn ni ddod i ryw fath o gytundeb".
Yn 么l datganiad gan Gyngor M么n bydd asesydd annibynnol yn dod i brisio'r safle.
Ychwanegodd bod y safle cyfan wedi ei gofrestru dan yr awdurdod lleol, ac nad oeddent yn ymwybodol o unrhyw dystiolaeth a oedd yn dweud fel arall.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2016