大象传媒

Arolwg yn trafod beth mae'n golygu i fod yn Gymry

  • Cyhoeddwyd
Y Ddraig GochFfynhonnell y llun, Getty Images

Ydych chi'n ystyried eich hun yn Gymry neu'n Brydeinwyr?

I ambell un, mae'n si诺r ei fod yn gwestiwn digon hawdd ond i nifer, dydy'r ateb ddim mor syml.

Fe wnaeth bron i hanner y rhai wnaeth ymateb i arolwg blynyddol Dydd G诺yl Dewi 大象传媒 Cymru ddweud eu bod yn Gymry yn unig neu'n fwy o Gymry na Phrydeinwyr.

Fel rhan o gyfres Changing Faces mae 大象传媒 Cymru wedi bod yn siarad 芒 phobl yngl欧n 芒 hunaniaeth genedlaethol a'r hyn sy'n dylanwadu ar ein hunaniaeth.

'Elfen drom o Brydeindod'

Mae'r atebion gafodd eu rhoi yn awgrymu bod sawl math o "Gymreictod", a bod diffinio "hunaniaeth" yn gymhleth.

"Mae yna gyfrinach yngl欧n 芒'r Cymry, bod yna elfen drom o Brydeindod," meddai'r awdur Jon Gower.

"Mae Caerdydd, yn hanesyddol, yn ail ar y rhestr o ran llefydd ym Mhrydain sy'n dathlu pethau Brenhinol.

"Os chi eisiau cael parti ar y stryd - dyma'r lle, bron. Felly mae hynny'n awgrymu rhyw fath o Brydeindod.

"Ac wrth gwrs mi oedd canlyniad y refferendwm Brexit, hwnna eto'n dangos ein bod ni'n debyg iawn i bethau sy'n digwydd ym Mhrydain... ac yn debyg iawn i bethau sy'n digwydd yn Lloegr."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cred yr awdur Jon Gower fod yna elfen drom o Brydeindod ymhlith y Cymry

Fe gafodd y cerddor E盲dyth, 21, ei geni yn Rhydychen cyn symud i Geredigion fel plentyn.

Mae hi bellach yn cynhyrchu cerddoriaeth electronig o'i chartref yn Ynysowen ym Merthyr Tudful.

"Mae 'di bod yn anodd ffeindio'r geiriau i ddisgrifio fy hunan yng Nghymru," meddai.

"O'dd e'n anodd tyfu lan yn rhywle lle o'n i ddim yn gwybod yn iawn beth oedd y drefn, beth oedd pobl yn wneud, sut oedd pobl yn siarad.

"Dwi'n meddwl bod Cymru wedi mabwysiadu fi mewn ffordd. Ond 'dwi bendant yn gweld fy hun fel Cymraes."

'Falch o ble dwi'n dod'

O'r 1,001 o bobl gafodd eu holi ar gyfer yr arolwg gan 大象传媒 Cymru, roedd 676 o Gymru.

Dywedodd 21% eu bod yn teimlo'n Gymry yn hytrach na Phrydeinwyr. Roedd 27% yn teimlo'n fwy o Gymry na Phrydeinwyr a 44% yn teimlo fel Cymry a Phrydeinwyr.

Roedd y 7% arall yn teimlo yn fwy Prydeinig neu'n Brydeinig yn unig.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y cerddor E盲dyth ei geni yn Lloegr ond mae hi'n ystyried ei hun yn Gymraes

Ymhlith myfyrwyr Coleg Caerdydd a'r Fro, mae'r farn yn adlewyrchu'r ystadegau.

Mae rhai fel Shanice Williams o Gasnewydd yn dweud ei bod yn teimlo'n fwy fel Prydeiniwr.

"Dydw i ddim yn swnio'n Gymraeg, dydw i ddim yn siarad Cymraeg a dydw i ddim wir yn gwybod unrhyw beth am Gymru," meddai.

Ond mae Cameron Ware, sy'n fyfyriwr lefel A yn teimlo fel Cymro.

"Mi ydw i'n sicr yn teimlo fel Cymro. Rydw i o'r wlad yma, dwi'n falch o ble dwi'n dod. Fel arfer, chi'n cael eich labelu fel Prydeiniwr," meddai.

"Dydy hynny ddim yn fy mhoeni'n ofnadwy, ond pan mae pobl yn dweud 'Prydeinig', dwi'n meddwl am 'Saesnig'."

Pwysigrwydd addysg

Yn 么l Mr Gower mae gan y byd addysg r么l fawr i'w chwarae yn hunaniaeth y genhedlaeth nesaf o Gymry.

"Os nad ydy'n system addysg yn dweud wrthym ni o leiaf elfennau pwysig o'n hanes, os nad yr holl hanes, ac am ein beirdd - boed yn ysgrifennu yn Gymraeg neu'n Saesneg tu hwnt i Dylan Thomas - wedyn dydyn ni ddim am gael y dyfnder hynny o Gymreictod.

"Mae'n un peth cael 'Caru Cymru' fel tat诺 ar eich braich.

"Ond mae rhaid iddo hefyd fod yn ddwfn yn yr ymennydd yn ogystal 芒'r galon."