大象传媒

Ai hon yw'r wythnos bwysicaf eto i Brexit?

  • Cyhoeddwyd
Theresa May yn gwrando ar gwestiynau'r wasg yn Grimsby ar 8 MawrthFfynhonnell y llun, Christopher Furlong
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Theresa May yn gwrando ar gwestiynau'r wasg yn Grimsby ar 8 Mawrth

Mis Ionawr fe gollodd Theresa May y bleidlais gynta' ar ei chytundeb Brexit yn drwm.

Cafodd cyfaddawd y prif weinidog ei wrthod o 230 o bleidleisiau - y golled fwyaf erioed i lywodraeth yn San Steffan.

Ei chynllun hi nawr ydi cynnig ail bleidlais i Aelodau Seneddol ar ei chytundeb ddydd Mawrth.

Mae'r llywodraeth yn ceisio cael newidiadau i'r cytundeb, ac yn benodol y backstop - y cynllun i osgoi ffin galed ar ynys Iwerddon wedi Brexit.

Felly pa mor bwysig fydd y dyddiau nesa'?

"Dwi'n credu fod yr wythnos o'n blaen ni yn fwy arwyddocaol na'r un wythnos ers i fi fod mewn gwleidyddiaeth," meddai Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Drefaldwyn, Glyn Davies.

"Dwi eisiau symud ymlaen. Mae popeth dwi'n wneud nawr, popeth yn y siambr, popeth yn y byd gwleidyddol, mae Brexit yn cael effaith ar bopeth. Does dim pwynt siarad am ddim byd arall ond Brexit.

"Os ydw i'n mynd allan i Sir Drefaldwyn i siarad mae pawb yn gofyn be' dwi'n feddwl am Brexit.

"Os nad ydyn ni'n cytuno ar beth sy' o'n blaenau ddydd Mawrth dwi'n credu y bydd hwn yn cario ymlaen am ddwy flynedd eto."

Be' nesa'?

Os ydi'r cytundeb yn pasio, bydd y Deyrnas Unedig yn gadael ar 29 Mawrth.

Er, mae yna rai wedi awgrymu y bydd angen gohiriad byr i gwblhau'r broses.

Ond be' os ydi Aelodau Seneddol yn gwrthwynebu'r cytundeb eto?

Os na fydd gan y prif weinidog fwyafrif ddydd Mawrth fe fyddan nhw'n pleidleisio ar y syniad o adael heb gytundeb y diwrnod canlynol.

Os ydi hynny'n cael ei wrthod, fe fydd 'na bleidlais ar ohirio Brexit ddydd Iau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fflagiau'r Undeb Ewropeaidd y tu allan i'w pencadlys ym Mrwsel

Ac os ydi Aelodau Seneddol yn cefnogi gohiriad? Yna fe fyddai Theresa May yna'n gofyn i'r Undeb Ewropeaidd i ohirio Erthygl 50.

Os byddai'r gwledydd eraill yn cytuno, yna bydd 'na ohiriad i Brexit. Yn 么l y prif weinidog, ddylai hyn ddim bod yn hirach na thri mis.

'Chwalfa llwyr'?

Mae'r blaid Lafur yn dweud eu bod nhw'n barod i gefnogi refferendwm arall i atal "Brexit Ceidwadol niweidiol".

Dywedodd yr AS Llafur dros Lanelli, Nia Griffith: "Mae hyn yn amlwg yn wythnos arwyddocaol iawn gan y bydd y pleidleisiau yn effeithio ar ein heconomi a swyddi etholwyr am flynyddoedd i ddod.

"Ar 么l blynyddoedd o ddiffyg gweithredu a misoedd o oedi, mae'n iawn y bydd ASau yn dweud eu dweud ar gynigion y llywodraeth a'r hyn sy'n digwydd nesaf os bydd y rhain yn cael eu trechu."

Yn 么l AS Plaid Cymru Jonathan Edwards, fe allwn fod mewn "sefyllfa wleidyddol ddiddorol iawn" erbyn diwedd yr wythnos.

Ychwanegodd AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr: "Gallwn ni gael chwalfa llwyr yn arwain efallai at etholiad neu refferendwm brys ar y cytundeb neu fod y Senedd fan hyn yn Llundain yn cytuno i ddweud wrth y llywodraeth bod angen cyfnod ail-negodi hir iawn i ddod dros yr ail gyfnod o Brexit, sef y cytundeb masnach fydd yn parhau nifer fawr o flynyddoedd."

Mae 'na sawl wythnos wedi ei disgrifio yma yn San Steffan dros y misoedd diwethaf fel rhai "allweddol", "pwysig", "tyngedfennol".

Mae'r wythnos hon yn sicr yn deilwng o'r disgrifiadau hynny.