Brexit: Profiad Cymry dramor
- Cyhoeddwyd
Bob dydd mae'r cyfryngau yn llawn o straeon am Brexit ac mae gan bawb ei farn yma - ond beth mae gweddill y byd yn ei feddwl o'r holl st诺r?
Ar raglen y Post Cyntaf ar 大象传媒 Radio Cymru, mae pedwar o Gymry tramor wedi bod yn siarad am y farn tu hwnt i ffiniau Prydain.
CHINA - Karl Davies
Mae pob symudiad mae'r Tsieineaid yn gwneud yn gam tuag at eu uchelgais i fod yr economi fwyaf yn y byd ac felly gyda Brexit maen nhw'n ystyried "os gawn ni gytundeb masnach efo Prydain fyddan nhw'n well cyfeillion a byddan nhw'n ein cefnogi ni yn y trafodaethau yn sefydliad Masnach y Byd."
Hefyd maen nhw'n meddwl "O, Ewrop rhanedig a Prydain allan o'r Undeb Ewropeaidd, allwn ni chwarae'r naill yn erbyn y llall a chael gwell d锚l i fusnesau Tsieineaidd pan maen nhw'n buddsoddi yn Ewrop neu Prydain."
Mae ambell i beth mwy tywyll hefyd hwyrach.
Ar hyn o bryd does neb yn cael gwerthu arfau i China ac mae China yna'n meddwl: "R诺an bod Prydain allan o'r Undeb Ewropeaidd hwyrach fydden nhw'n fodlon gwerthu arfau i ni a hwyrach hefyd os ydyn ni'n eu gwneud nhw'n fwy dibynnol ar ein heconomi ni, ella fyddan nhw'n llai llym arnon ni efo hawliau dynol ac yn y blaen."
Maen nhw'n edrych ar peth o'r siarad sydd ym Mhrydain yngl欧n 芒 r么l Prydain yn y byd a bod Prydain am arwain y byd unwaith eto. Maen nhw'n meddwl bod hwnnw'n dipyn o j么c.
Pan ddywedodd Gavin Williams, yr Ysgrifennydd Amddiffyn, ei fod am yrru'r aircraftcarrier newydd y Queen Elizabeth i'r M么r Tawel ac i gyffiniau Tsieina, y pennawd oedd "UK Defence Minister more like Mr Bean"... a chyfeirio at ei araith fel "the funniest thing since Mr Bean and Monty Python were the best things on British television."
JAPAN - Rhian Yoshikawa
Barn y rhan fwyaf o bobl ydi ei bod hi'n reit anghredadwy bod Prydain wedi fotio i fynd allan o'r EU. Mae lot o'r problemau personol, tydyn nhw ddim yn broblemau i ni yma yn Japan - fel mewnfudo neu stad yr NHS.
Felly o safbwynt economaidd maen nhw yn edrych ar y peth ac wedyn tydyn nhw ddim yn deall sut mae hyn wedi digwydd.
Beth oedden ni'n weld y diwrnod o'r blaen ydi bod lot o fusnesau Japaneaidd yn symud allan o Brydain ac i mewn i'r EU yn enwedig cwmni securities enwog fel Nomura a Daiwa wedi mynd i'r Almaen a Panasonic wedi symud i'r Iseldiroedd.
Tydi Brexit ddim yn effeithio ar agwedd pobl gyffredin Japan. Mae'r llywodraeth wrth gwrs yn panicio yn ofnadwy ond mae gan y bobl gyffredin y syniad yma bod Prydain yn wlad stable, ddim yn newid rhyw lawer, felly mae hyn wedi newid eu syniad nhw mewn rhyw ffordd.
Ond dwi ddim yn meddwl bod nhw'n meddwl dim llai o'r wlad.
Hefyd o ddiddordeb:
AWSTRALIA - Gwenfair Griffith
Mae Brexit yn gymhleth i bobl ddeall, dydi pobol ddim yn deall beth ydi soft Brexit, hard Brexit, y back stop.
Roedd rhywun yn gofyn i fi egluro beth yw'r broblem gyda'r ffin efo Gogledd Iwerddon ac mae'n bwnc cymhleth iawn a dyna sy'n anodd i newyddiadurwyr yw i gadw'r peth yn ddiddorol i bobl.
Nid y manylion sy'n denu sylw pobl fan hyn ond y cymeriadau gwleidyddol, y trafferthion, y ddrama yn San Steffan, a beth fydd yn digwydd i Theresa May a Corbyn.
Ro'n i'n darllen heddiw yngl欧n 芒 rhyw gwmni mawr o Awstralia sy'n dosbarthu nwyddau meddygol ym Mhrydain ac roedden nhw'n s么n am y problemau sy'n codi o ran Brexit iddyn nhw o ran staff, ansicrwydd a sicrhau bod digon o feddyginiaeth yn dod fewn i Brydain wedi Brexit.
Ond y pethau sy'n poeni pobl Awstralia fwy ydi sut mae am eu effeithio nhw.
Mae lot yn Awstralia o dras Brydeinig ac maen nhw eisiau gwybod be fydd eu hawliau nhw. Fyddan nhw'n cael gweithio ym Mhrydain a fyddan nhw'n parhau i allu gweithio yn Ewrop?
YR ISELDIROEDD - Christian Webb
Mae 'na wastad luniau o Theresa May a'r gair Brexit ar flaen papurau cenedlaethol yr Iseldiroedd ac mae llawer o siarad o gwmpas y lle yn enwedig unwaith mae pobl yn sylweddoli mod i'n dod o Gymru ac o'r Deyrnas Gyfunol.
Mae llawer iawn o bobl yn gofyn os fydd pethau'n newid i mi fis Mawrth.
Mae llawer iawn o siarad, yn enwedig oherwydd y ffaith mai'r Iseldiroedd ydi un o'r gwledydd sy'n mynd i gael ei effeithio fwyaf ar 么l Iwerddon gan effaith masnachol Brexit.
Yn y brifysgol, unwaith mae'r pwnc Brexit yn codi fel testun trafod mewn darlith neu seminar mae digon o chwerthin gan fy nghyfoedion o Ewrop ac eithaf llawer o gwestiynau fel 'Beth chi'n neud?' a chwestiynau pam bod hyn yn digwydd.
Mae hefyd dryswch yngl欧n 芒 pham bod yr holl broses yn cymryd gymaint o amser.
Mae llawer iawn o amser y cyfryngau yn cael ei gymryd lan fan hyn yn trafod y mater, ac felly mae'r syniad o Brexit fatigue yn dechrau treiddio, nid yn unig yn y Deyrnas Unedig ond yn yr Iseldiroedd hefyd.