Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Yr Alban 11-18 Cymru

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Josh Adams yn sgorio cais i Gymru wedi 13 munud

Bydd Cymru yn mynd am y Gamp Lawn ddydd Sadwrn nesaf wedi iddyn nhw drechu yr Albanwyr o saith pwynt ym Murrayfield.

Roedd yna gryn edrych ymlaen at y g锚m wedi i Gymru drechu y Saeson o 21-13 yn Stadiwm y Principality bythefnos yn 么l.

Y t卯m cartref a sgoriodd gyntaf ym Murrayfield wrth i Finn Russell sicrhau cic gosb lwyddiannus.

Ond 13 munud i fewn i'r g锚m roedd yna gais i Josh Adams ac wedi i Gareth Anscombe drosi'n llwyddiannus roedd y sg么r yn 3-7.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Daeth ail gais i Gymru gan Jonathan Davies

O fewn munudau roedd yna ail gic gosb lwyddiannus i Finn Russell ac roedd Yr Alban wedi gostwng mantais Cymru i un pwynt.

Ond wedi 24 munud llwyddodd Anscombe i ymestyn y mantais ymhellach gyda chic gosb lwyddiannus.

Hanner awr fewn i'r g锚m a chais arall i Gymru - Jonathan Davies y tro hwn - wedi gwaith arbennig o dda gan y blaenwyr. Ar yr egwyl roedd y sg么r yn 6-15.

Disgrifiad o'r llun, Rhai o'r cefnogwyr a deithiodd i'r Alban

Roedd ymdrech Yr Alban yn fawr ar ddechrau'r ail hanner ond roedd amddiffyn Cymru yn gryf.

Er hynny yr Albanwyr a sgoriodd gyntaf yn yr ail hanner wrth i Darcy Graham sgorio cais i ddod 芒'r t卯m cartref yn 么l i'r g锚m (11-15) wedi symudiad da gan yr olwyr.

Cymru yn colli cyfle yn fuan wedyn a'r Alban yn ennill tir ac yn rheoli'r g锚m gyda dim ond 12 munud i fynd.

Yn ystod y munudau diwethaf roedd y g锚m yn y fantol ond fe ddaeth cic gosb i Cymru (Gareth Anscombe) a'r sg么r terfynol oedd 11-18.

Seren y g锚m oedd Hadleigh Parkes.