Beth yw iaith y brain?

Ym Mhen Ll欧n ers talwm roedd iaith ryfeddol i'w chlywed nad oedd ond rhai pobl yn ei medru. Ei henw oedd iaith y brain ac mae sawl un yn ei chofio'n iawn.

Ond mae'n debyg nad yw iaith y brain wedi ei chyfyngu i L欧n gan bod iaith o'r un enw'n cael ei siarad hyd heddiw gan rai o drigolion ardal Porthmadog.

Mae'n swnio'n wahanol iawn i iaith brain Pen Ll欧n ond Cymraeg yw hi wedi'r cyfan. Un sy'n dal i siarad yr iaith yw Chris Davies, garddwr o Lanfrothen.

Disgrifiad o'r fideo, Mae Chris yn siarad fersiwn 'chwithig' o'r Gymraeg sy'n cael ei 'nabod fel iaith y brain.

Meddai Chris mai rhywbeth ddechreuodd rhyngddo ef a'i ffrindiau oedd y ffurf hon o'r iaith y mae o'n ei disgrifio fel "Cymraeg, ond ei fod yn chwithig."

"Pan oeddan ni yn ein harddegau ar st芒d Pensyflog, roedd na dri neu bedwar o'r hogia oedd yn h欧n na fi o rhyw dwy neu dair blynedd yn siarad yr iaith 'ma. Bob nos Wener fysan ni'n mynd am beint i'r Red Lion a mi fysan ni'n siarad fel 'ma, fel bod neb yn dallt be oeddan ni'n ddeud.

"Wedyn fysa hogia Pen Cei, Cloc Berth ac Ochr Cyt ddim yn dallt am be oeddan ni'n s么n. Rhywbeth Pensyflog oedd o, ond dwn i ddim o lle ddaeth o'n wreiddiol."

Yn 么l Chris mae angen llawer o ymarfer er mwyn i'r iaith lifo'n rhwydd.

Beth yw rheolau iaith y brain?

Tynnu'r gytsain gyntaf a'i gosod ar ddiwedd y gair gyda'r llafariad cyntaf yn y gair.

Er enghraifft:

bechgyn > echgynbe

merched > erchedme

cannwyll > annwyllca

bwrdd > wrddbw

Hefyd o ddiddordeb:

'Backslang'

Efallai bod yr iaith yn gyfarwydd i chi o un o ganeuon y cerddor Gai Toms. Sgwrs rhyngddo ef a Chris ysbrydolodd y g芒n .

Meddai Gai, am sut y clywodd yr iaith gyntaf un: "Trwy Mam dw i'n'nabod y backslang. Dw i wedi cymryd ei bod hi'n ffordd i chwarelwyr 'Stiniog ddiddanu eu hunain yn y gwaith, a falle ryw g么d tu 么l i gefnau'r swyddogion 'parchus'!"

Ym Mhen Ll欧n honnir bod o leiaf tair ffurf o iaith y brain, sef Brain Meillionydd, Brain Bodwrdda a Brain y Sarn.

Ysylltwch-cy

Ydych chi'n siarad yr ieithoedd hyn, neu fath arall o Gymraeg? Os felly ysylltwch-cy!

Gallwch gysylltu drwy ddefnyddio'r ffurflen isod neu e-bostiwch cymrufyw@bbc.co.uk