Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Stephen Crabb: 'Cefnogwch gytundeb Brexit Theresa May'
Mae cyn-ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb yn annog Aelodau Seneddol i gefnogi cytundeb Brexit Theresa May ddydd Mawrth.
Dywedodd Mr Crabb, AS Preseli Penfro bod cefnogwyr Brexit yn "dal mas am berffeithrwydd ond dyw perffeithrwydd ddim yn debygol o ddod".
Ac mae'r Ysgrifennydd Gwladol presennol, Alun Cairns wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru fod cytundeb Mrs May yn ateb "nifer o'r pryderon a godwyd".
Ond ym marn Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles does dim byd newydd yn sgil datganiad diweddaraf Mrs May.
Dywedodd bod y cytundeb fydd yn mynd gerbron ASau nos Fawrth yn "dal i fod yn gytundeb gwael i Gymru... nid yw'r sefyllfa wedi newid o gwbl".
Dywedodd Mr Crabb bod datganiad Mrs May nos Lun yn "tanlinellu mai'r cytundeb sydd gerbron pawb yw unig opsiwn os yw'r T欧 Cyffredin yn mynd i weithredu Brexit".
Dywedodd bod y gr诺p o gefnogwyr Brexit ymhlith y Ceidwadwyr "angen meddwl yn galed am eu penderfyniad i atal datblygiadau.
"Maen nhw'n dal mas am berffeithrwydd ond dyw perffeithrwydd ddim yn debygol o ddod. Mae'n rhaid i ni ddod at ein gilydd, nawr, a chwblhau hyn."
Dywedodd Mr Miles nad yw'r datganiad diweddaraf yn newid dim, ac y dylai Mrs May wedi bod yn fwy hyblyg gyda'i gofynion i'r Undeb Ewropeaidd.
"Rydw i yma yn Strasbwrg i argyhoeddi aelod-wladwriaethau eraill bod yna bobl ym Mhrydain sy'n barod i drafod cytundeb arall, a fyddai'n rhoi lle cadarnach i fusnesau yng Nghymru barhau i fasnachu gyda gwledydd eraill yn yr UE," meddai.
Datganiad yn 'ateb pryderon'
Dywedodd Mr Cairns bod cytundeb diweddaraf Mrs May yn "ein galluogi i fod yn genedl sy'n masnachu'n annibynnol, i gadw mynediad i farchnad yr UE, ac yn ein hatal rhag anfon symiau mawr i Ewrop.
"Mae'n amddiffyn gweithgynhyrchu ac amaethu Cymru a'r DU.
"Mae hefyd yn ateb pryderon rhai y bydd DU wedi ei rhwymo gyda'r backstop. Mae yna fecanwaith cyfreithiol eglur fydd yn diogelu buddiannau'r DU."