Chwe Gwlad: Dim newid i'r 15 a drechodd Yr Alban
- Cyhoeddwyd
Mae Warren Gatland wedi dangos ffydd yn y t卯m a drechodd Yr Alban wrth enwi'r un 15 ar gyfer y g锚m dyngedfennol yn erbyn Iwerddon yn rownd olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Byddai buddugoliaeth yn erbyn y Gwyddelod ddydd Sadwrn yn sicrhau Camp Lawn i Gymru - y cyntaf ers 2012.
Roedd pryder am ffitrwydd Liam Williams wedi iddo orfod gadael y maes gydag anaf i'w ysgwydd yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Yr Alban, ond mae cefnwr y Saracens yn cadw ei le.
Gareth Anscombe fydd yn dechrau fel maswr unwaith eto gyda Dan Biggar yn gorfod bodloni gyda lle ar y fainc.
'Gwobrwyo'r chwaraewyr'
Bydd y capten, Alun Wyn Jones yn dod yn gyfartal 芒 record Gethin Jenkins (134) am ymddangosiadau mewn gemau prawf yn erbyn Iwerddon.
Adam Beard fydd yn ymuno 芒 Jones yn yr ail reng ar 么l i Cory Hill dderbyn anaf i'w goes yn erbyn Lloegr.
Dyma fydd 50fed g锚m Gatland fel rheolwr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, a pe bai Cymru yn fuddugol dyma fyddai'r drydedd gamp lawn i'r g诺r o Seland Newydd ei churo - record ar gyfer unrhyw reolwr.
Dywedodd Gatland ei fod wedi enwi'r un t卯m fel ffordd o "wobrwyo'r chwaraewyr am y perfformiadau a'r buddugoliaethau diweddar".
I'r Gwyddelod bydd cyn-chwaraewr y Scarlets, Tadhg Beirne yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd anaf i Iain Henderson
T卯m Cymru
Liam Williams; George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Gareth Anscombe, Gareth Davies; Rob Evans, Ken Owens, Tomas Francis, Adam Beard, Alun Wyn Jones (C), Josh Navidi, Justin Tipuric, Ross Moriarty.
Eilyddion: Elliott Dee, Nicky Smith, Dillon Lewis, Jake Ball, Aaron Wainwright, Aled Davies, Dan Biggar, Owen Watkin.
T卯m Iwerddon
Rob Kearney; Keith Earls, Garry Ringrose, Bundee Aki, Jacob Stockdale; Johnny Sexton, Conor Murray; Cian Healy, Rory Best (C), Tadhg Furlong, Tadhg Beirne, James Ryan, Peter O'Mahony, Sean O'Brien, CJ Stander.
Eilyddion: Niall Scannell, Dave Kilcoyne, Andrew Porter, Quinn Roux, Jack Conan, Kieran Marmion, Jack Carty, Jordan Larmour.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2019