Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru 25-7 Iwerddon
Mae Cymru wedi sicrhau'r Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar 么l curo Iwerddon yn gyfforddus yn Stadiwm Principality.
Fe sgoriodd Gareth Anscombe 20 o'r pwyntiau wrth i d卯m Warren Gatland ennill o 25-7.
Gatland yw'r hyfforddwr cyntaf yn hanes y gystadleuaeth i gyflawni'r Gamp Lawn deirgwaith.
Cafodd y t卯m mewn coch ddechrau perffaith gyda chais gan Hadleigh Parkes o fewn 90 eiliad yn dilyn gwaith campus gan George North i ennill y meddiant o'r lein.
Roedd yna gyfraniad allweddol arall gan Parkes wedi saith munud, wrth i'w dacl arbennig atal Jacob Stockdale rhag sgorio cais ar 么l iddo yntau dderbyn y b锚l wedi cic glyfar gan Johnny Sexton.
Ond funud wedi hynny bu'n rhaid i North adael y maes wedi anaf i'r arddwrn a daeth Dan Biggar ymlaen yn ei le.
Gyda'r Gwyddelod yn ildio ciciau cosb diangen, roedd yna gyfleoedd i Gymru gynyddu'r pwysau, ac fe lwyddon nhw i sgorio pwyntiau bob tro roedden nhw'n ymosod hanner y gwrthwynebwyr.
Erbyn yr egwyl roedd Anscombe wedi cynyddu'r fantais i 16-0 ac roedd Cymru wedi cael 62% o'r meddiant o'r b锚l.
Gyda tho'r stadiwm ar agor ar ddiwrnod glawog, a hynny ar gais yr ymwelwyr, roedd y tywydd, efallai, yn adlewyrchu maint yr her i'r Gwyddelod, sydd erioed wedi gallu taro'n 么l a churo Cymru ar 么l bod mwy nag wyth pwynt ar ei h么l hi wedi'r hanner cyntaf.
Roedd daer angen dechrau da i'r ail hanner felly ar y gwrthwynebwyr os am gael unrhyw obaith o aros yn y g锚m ond roedd Cymru yn dal yn rhy gryf iddyn nhw, ac wedi 48 munud roedd Anscombe wedi sgorio cic gosb arall i'w gwneud hi'n 19-0.
Daeth ei bumed wedi 52 o funudau, yn dilyn mwy o ddiffyg disgyblaeth gan chwaraewyr Iwerddon, a'r sg么r bellach yn 22-0.
Roedd yna sawl newid i'r ddau d卯m yn y munudau canlynol ond dim newid i batrwm y g锚m yn sgil yr eilyddion.
Wedi 69 o funudau roedd Anscombe wedi llwyddo yn ei chweched gic gosb o'r g锚m.
A Chymru 25 pwynt ar y blaen gydag ychydig dros 10 munud yn weddill, a pherfformiad y Gwyddelod mor siomedig roedd y g锚m, i bob pwrpas, eisoes ar ben.
Pwyntiau cysur yn unig oedd yna i Iwerddon yn sgil cais munud olaf Jordan Larmour a chic Jack Carty.