Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Rhyddhau carthion i afonydd yn digwydd yn rhy aml'
Mae ymgyrchwyr yn dweud bod angen gwneud llawer mwy i atal carthffosydd yng Nghymru rhag lledu i afonydd a'r m么r.
Mae'n dilyn achos o garthion "ofnadwy" yn cael eu gollwng i Afon Conwy yn Llanrwst wedi'r glaw trwm diweddar.
Mae dadansoddiad gan 大象传媒 Cymru o'r 1,000 o a gafodd eu monitro gan D诺r Cymru wedi datgelu bod 30,000 o ddigwyddiadau tebyg ledled Cymru wedi bod yn 2017.
Pan fydd d诺r llonydd yn cymysgu gyda d诺r carthffosydd, bydd D诺r Cymru weithiau'n rhyddhau'r gymysgedd i afonydd.
Oni bai am y gollyngiadau, byddai cartrefi a busnesau'n gorlifo 芒 charthion, meddai'r cwmni.
Dywedodd Stuart Llewellyn, cadeirydd Clwb Pysgota Llanrwst, ei fod wedi gweld carthion yn cael eu rhyddhau i'r afon dair gwaith yn yr wythnos ddiwethaf.
Mae ffigyrau D诺r Cymru ei hun ar gyfer 2017 yn dangos bod y gorlif yn y dref wedi'i ddefnyddio 110 o weithiau - am fwy na 350 awr yn ystod y flwyddyn.
Ond nid dyma'r troseddwr gwaethaf.
'Anhygoel'
Roedd gorlif ar gyrchfan traeth Pentywyn yn Sir Gaerfyrddin yn rhyddhau carthion ar 317 diwrnod yn ystod y flwyddyn.
Fe wnaeth CSO arall yn Nhyndyrn (Tintern) yn Sir Fynwy ryddhau d诺r gwastraff ar bron i 250 achlysur.
Mewn un flwyddyn, ledled Cymru, roedd CSOs yn gweithredu am 6,800 diwrnod.
"Mae'n anhygoel," meddai Mr Llewellyn. "Mae'r rhain i fod i gael eu rhyddhau ar gyfer digwyddiadau eithriadol, dydyn nhw ddim i fod bob tro y mae'n bwrw glaw.
"Fel 'da ni'n gwybod, dydy glaw yng Nghymru ddim yn ddigwyddiad eithriadol."
Mae'n galw ar D诺r Cymru i wella'r cyfleusterau yn y dref, gan gynnwys cynyddu'r lle storio mewn tanciau storm.
"Mae'n hafonydd ni'n dirywio o flwyddyn i flwyddyn ac mae angen i ni ddechrau mynd i'r afael 芒'r materion," meddai.
Dywedodd D诺r Cymru, fel cwmni sydd 芒 chysylltiad agos 芒'r amgylchedd, ei fod "yn ymwybodol iawn o effaith ein gwaith ar ein hamgylchedd ac yn cymryd ein perfformiad amgylcheddol yn ddifrifol iawn".
Mae'r cwmni wedi dweud y bydd wedi buddsoddi 拢460m mewn gwasanaethau d诺r yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - fel rhan o fuddsoddiadau o 拢2.3bn dros gyfnod o bum mlynedd hyd at ddiwedd 2020.
Mae'n cynnwys gwaith yn Sir Gaerfyrddin a Chaerdydd i helpu atal d诺r rhag mynd i mewn i'r rhwydwaith carthffosydd yn y lle cyntaf.
Bydd swyddogion Pysgotwyr Llanrwst yn cyfarfod 芒 chynrychiolwyr D诺r Cymru ddydd Llun.