大象传媒

Saville-Roberts wedi'i 'siomi' wedi cyfarfod Brexit Corbyn

  • Cyhoeddwyd
Liz Saville Roberts

Mae Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedi datgan ei "siomedigaeth" yn dilyn cyfarfod i drafod Brexit gyda Jeremy Corbyn.

Roedd Liz Saville-Roberts yn cyfarfod Mr Corbyn gydag arweinwyr pleidiau llai T欧'r Cyffredin.

Dywedodd mai pwrpas y cyfarfod oedd trafod pleidlais y bobl, ond ei bod "yn siomedig fod arweinydd yr wrthblaid ond eisiau trafod ei fwriad ei hun, ei fath ef o Brexit".

Ychwanegodd Ms Saville-Roberts fod Mr Corbyn yn "amwys" ond fe wnaeth wrando ar ddadleuon fod angen refferendwm pellach cyn cadarnhau unrhyw gytundeb gydag aros o fewn yr UE yn opsiwn.

Dywedodd y Blaid Lafur bod y cyfarfod yn un "adeiladol" a bod yr arweinwyr wedi "datgan eu gwrthwynebiad i gytundeb y llywodraeth ac i sefyllfa Brexit di-gytundeb".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Alun Davies fod t么n Mark Drakeford yn anffodus

Daw sylwadau Ms Saville-Roberts yn dilyn diwrnod tanllyd ym Mae Caerdydd rhwng aelodau o'r blaid Lafur.

Yn dilyn sylwadau gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a ddywedodd y byddai refferendwm arall yn "rhwygol ond ddim o reidrwydd yn rhoi ateb pendant", daeth ymateb chwyrn gan AC Blaenau Gwent, Alun Davies.

Dywedodd Mr Davies, sydd o blaid rhoi pleidlais arall i'r cyhoedd, fod t么n Mr Drakeford yn anffodus.

Mae Mr Drakeford eisoes wedi dweud ar lawr y Senedd y byddai angen estyniad hirach na 30 Mehefin cyn gadael yr UE, ac y byddai'n cefnogi unrhyw benderfyniad o San Steffan i gynnal pleidlais arall.

Dywedodd Mr Davies wrth Mr Drakeford: "Dwi'n gobeithio y byddwch chi ddigon clir ac yn ymrwymo i'r polisi mai'r bobl sy'n byw yn y wlad hon fyddai'n cael y gair olaf, a byddai Llywodraeth Cymru yn ymgyrchu dros yr opsiwn i aros."

Wrth ymateb dywedodd Mr Drakeford nad oedd yn "fodlon sefyll ar lawr y senedd a smalio ei fod yn mewn rheolaeth o'r sefyllfa".