Cynllun llywodraeth i 'droi Cymru'n wlad carbon isel'
- Cyhoeddwyd
Mae pecyn o 100 o bolis茂au a chynigion i fynd i'r afael 芒 newid hinsawdd wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd gweinidogion bod y cynllun yn "gosod y sylfeini i Gymru droi'n wlad carbon isel".
Mae'n egluro hefyd sut maen nhw'n bwriadu cyrraedd targed cyfreithiol i dorri allyriadau Cymru 80% erbyn 2050.
Mae mwyafrif y polis茂au yn rhai sydd eisoes yn bodoli, wedi'u tynnu at ei gilydd o adrannau gwahanol Llywodraeth Cymru.
Y gobaith yw cydlynu ymdrechion i leihau allyriadau carbon mewn adrannau gwahanol, fel ynni, trafnidiaeth ac amaeth.
Addewidion
Mae'r mesurau'n cynnwys cynyddu nifer y coed sy'n cael eu plannu, sicrhau bod pob adeilad cyhoeddus yn rhedeg ar ynni adnewyddadwy erbyn 2020 a bod pob bws a thacsi yn rhai gwell i'r amgylchedd erbyn 2028.
Mae'r addewidion newydd yn cynnwys:
Comisiynu arolwg o fylchau mewn swyddi a sgiliau fyddai'n gallu cefnogi datgarboneiddio;
Sefydlu gr诺p o arbenigwyr i gynghori ar dechnolegau newydd all leihau allyriadau;
Cynnal cynhadledd newid hinsawdd i gynnwys yr holl sector a phob lefel o gymdeithas.
'Amhosib peidio cael eich ysbrydoli'
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ei fod wedi cael ei ysbrydoli gan y galwadau i weithredu gan ymgyrchwyr ifanc sydd wedi cynnal protestiadau ar draws y byd yn ddiweddar.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys addewid i weithio gydag ysgolion i roi mwy o bwyslais ar gynaliadwyedd a newid hinsawdd yn y cwricwlwm.
"Mae hi'n amhosib peidio cael eich ysbrydoli gan yr angerdd ry'n ni wedi'i weld gan y cenedlaethau iau," meddai Mr Drakeford.
"Maen nhw'n cydnabod y gallai diffyg gweithredu i wella ein hamgylchedd nawr gael canlyniadau trychinebus ar gyfer eu dyfodol."
Mae'r ddogfen yn rhagweld y bydd newid hinsawdd yn effeithio ar gymunedau mwyaf bregus Cymru fwyaf.
Mae rhesymau economaidd i weithredu hefyd, gyda sector carbon isel Cymru yn cynnwys 9,000 o fusnesau a 13,000 o weithwyr, gan greu 拢2.4bn o drosiant yn 2016.
'Gorfod delio 芒'r problemau'
Bydd y cynllun yn cael ei lansio yn adeilad y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd - oedd yn arfer bod yn ganolbwynt masnach glo y byd - i symboleiddio uchelgais y wlad i arwain y ffordd ar ynni glan.
Fe fydd Sion Sleep, fu'n helpu i drefnu'r protestiadau newid hinsawdd diweddar yng Nghaerdydd, yn siarad yn y lansiad.
Dywedodd ei bod yn bwysig iawn i bobl ifanc gael llais "am mai ni yw'r bobl fydd yn gorfod delio 芒'r problemau".
Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe, hefyd yn croesawu cynlluniau'r llywodraeth.
"Ry'n ni nawr angen gweld arweinyddiaeth ar draws y llywodraeth a gan ein cyrff cyhoeddus i greu'r newid sydd ei angen i alluogi i bawb wneud gwell benderfyniadau sy'n lleihau ein hallyriadau," meddai.
Canolfan newydd 拢5m
Bydd cyhoeddiad hefyd yn y lansiad y bydd ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn arwain canolfan newydd gwerth 拢5m i geisio canfod ffyrdd newydd o fynd i'r afael 芒 newid hinsawdd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod wedi gweithio'n agos gyda'r ymchwilwyr i siapio'r prosiectau sy'n cael eu cynllunio gan y ganolfan.
Fe wnaeth y ffigyrau diweddaraf, o 2015, ddangos bod allyriadau yng Nghymru wedi gostwng 19% o'r lefel yn 1990.
Targedau'r llywodraeth yw gweld gostyngiad o 27% erbyn 2020, 45% erbyn 2030, 67% erbyn 2040 ac 80% erbyn 2050.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2016
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2015