Targed merch i redeg eto ar 么l colli ei choes

Un o'r plant sy'n cael eu gwobrwyo am eu dewrder mewn rhaglen arbennig ar S4C nos Wener yw Mia Lloyd o Aberteifi sy'n benderfynol o ddechrau rhedeg eto ar 么l colli ei choes i fath prin o ganser.

Mae rhaglen Dathlu Dewrder - Tlws Plant S4C nos Wener, 22 Mawrth, yn gwobrwyo rhai o blant a phobl ifanc Cymru sydd wedi dangos dewrder yn wyneb profiadau anodd.

Cafodd Mia ddiagnosis o Osteosarcoma, math o ganser sy'n effeithio ar yr esgyrn, ar 么l iddi ddechrau cael poenau yn ei choes pan oedd hi'n 10 oed.

Roedd yn rhaid iddi gael llawdriniaeth i dynnu ei choes yn fuan wedi hynny ynghyd 芒 thriniaeth cemotherapi.

Ond flwyddyn a hanner yn ddiweddarach, mae hi yn 么l yn gwneud bob math o chwaraeon, a'i nod yw gallu rhedeg eto, yn 么l ei mam, Emma Lloyd.

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Mia yn cael cwrdd 芒'i harwr, Gareth Davies, fel rhan o raglen Dathlu Dewrder - Tlws Plant S4C

Mae chwaraeon wedi bod yn bwysig i Mia erioed, a dydi hi'n ddim am adael i goes brosthetig ei stopio hi rhag parhau.

"Mae hi'n chware golff, mae hi'n gwneud p锚l-fasged cadair olwyn - mae hi'n trio popeth," meddai Emma.

"Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi bod yn ffantastig a maen nhw'n rhoi pob cyfle posib iddi. Mae hi jest ishe mwynhau a mynd n么l i fod yn heini unwaith eto ar 么l bron i flwyddyn yn yr ysbyty."

"Rhedeg yw'r g么l - dyna'r targed achos dyna o'dd hi'n ei 'neud cyn bod hi'n mynd yn dost, a dyna mae hi mo'yn 'neud eto.

"Ar hyn o bryd, mae hi'n teimlo bach yn rhwystredig achos dyw hi ddim yn gallu rhedeg ar y goes brosthetig sy' gyda hi... er mae hi'n rhoi gwd shot iddi!

"Dyna yn y pen-draw mae hi am ei wneud, ac mae'n gr锚t i gael y targed 'na yn ei phen hi. Mae pethe dal yn gynnar - dim ond ers rhyw flwyddyn a hanner mae hi wedi bod ar goes brosthetig, felly mae dal amser i gryfhau.

"Er ei bod hi'n teimlo'n rhwystredig, mae hi'n gwybod mai amser fydd angen arni hi i gyflawni beth mae hi ishe."

Disgrifiad o'r llun, Mae Mia yn chwarae i d卯m p锚l-fasged cadair olwyn yn yr ysgol

Cael cwrdd 芒'i harwr

脗 chwaraeon yn rhan mor bwysig o'i bywyd hi, roedd hi'n brofiad anhygoel i Mia i gael y cyfle i chwarae golff gyda'i harwr, chwaraewr rygbi Cymru a'r Scarlets Gareth Davies, fel rhan o'i gwobr am ei dewrder. Ond roedd rhaid i'w rhieni gadw'r rhan yna yn syrpreis, meddai Emma.

"Cafon ni ddiwrnod neis, lle oedden ni'n teimlo'n gyfforddus iawn yn siarad o flaen y camera am stori Mia - achos ma' fe yn beth eitha' anodd i siarad amdano fe.

"Wedyn o'dd Mia yn meddwl ei bod hi'n mynd mas i chware golff gyda'i thad er mwyn cal 'chydig o glips i'r rhaglen, a dda'th Gareth Davies rownd y gornel! Ma' fe'n r卯al arwr i Mia - ma' hi'n meddwl y byd ohono fe. Gafodd hi sioc ac a'th hi'n fud am sbel! Ond ar 么l iddi ddod at'i hun, 'nath hi joio mas draw!"

Ffynhonnell y llun, Betsan Haf Evans

Disgrifiad o'r llun, Mia yn derbyn ei gwobr gan Owain Gwynedd a Rhodri Gomer yn seremoni wobrwyo Tlws Plant Cymru yng Ngwesty Parc y Strade, Llanelli

Penderfyniad anodd

Mae Mia wedi gorfod tyfu i fyny yn gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond mae Emma yn dweud ei bod wedi bod yn aeddfed iawn wrth wneud penderfyniadau oedd am effeithio ar weddill ei bywyd.

"O'dd 'na ddewis gyda hi. 'Sa hi wedi gallu arbed y goes - o'dd hwnna'n llawdriniaeth fwy cymhleth a gyda lot o risg iddo fe, ac o'dd y surgeon wedi dweud na fyddai hi'n medru mynd yn 么l i wneud chwaraeon wedi hynny. Yr ail ddewis oedd i dynnu'r goes.

"O'dd Mia ishe gallu 'neud chwaraeon, a hi 'wedodd "fi ishe iddyn nhw fynd 芒 fe, Mam". Ro'dd hi mor aeddfed yn medru rhesymu popeth gyda ni ac o'n i'n gw'bo' bod rhaid i ni fynd gyda'i theimladau greddfol hi."

Ffynhonnell y llun, Betsan Haf Evans

Disgrifiad o'r llun, Mia, gyda'i rhieni, Eurig ac Emma, a'i brawd Sam a'i chwaer Lili - mae'r teulu yn falch iawn o sut mae hi wedi wynebu ei salwch

"R卯al arwres"

Mae hi'n golygu llawer i Emma a'i g诺r Eurig fod Mia wedi cael ei dewis i gael ei gwobrwyo ar y rhaglen arbennig yma.

"O'dden ni'n teimlo ei fod e'n gydnabyddiaeth arbennig wrth rywun tu allan i'r teulu," meddai Emma. "Fel rhieni, 'yn ni'n canmol ein plant ni'n gyson, ond dyw pobl fel Mia ddim wir yn sylweddoli gymaint o edmygedd sydd gyda ni tuag ati a pha mor ddiolchgar 'yn ni ei bod hi wedi brwydro fel y gna'th hi a fel mae hi dal yn gorfod ei wneud.

"Trwy fod yn rhan o'r rhaglen o'n i'n teimlo bod e'n rhoi golwg gwahanol i Mia ar ei dewrder hi a'r ffordd arwrol mae hi wedi delio 芒'i sefyllfa anodd hi.

"'Dyn ni jest mor prowd ohoni, mae hi mor positif. Mae hi'n r卯al arwres i fi."

Mae Dathlu Dewrder - Tlws Plant S4C yn cael ei darlledu am 7.30 nos Wener 22 Mawrth ar S4C

Hefyd o ddiddordeb: