大象传媒

Chris Davies AS yn pledio'n euog i hawlio treuliau ffug

  • Cyhoeddwyd
Chris Davies MPFfynhonnell y llun, Alfred Collyer/PA Wire
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe blediodd Chris Davies yn euog wrth ymddangos yn Llys Ynadon Westminster fore Gwener

Mae Aelod Seneddol Ceidwadol wedi pledio'n euog i ddau gyhuddiad o hawlio treuliau ffug.

Fe wnaeth Chris Davies, 51, gyfaddef ei fod wedi cyflwyno dogfennau ffug a chamarweiniol wrth hawlio treuliau.

Cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol ar gyfer Brycheiniog a Sir Faesyfed yn 2015.

Fe blediodd yn euog yn Llys Ynadon Westminster fore Gwener, ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu mewn Llys y Goron.

Hwn yw'r erlyniad cyntaf o'i fath o dan y Ddeddf Safonau Seneddol.

Ym mis Mawrth 2016 fe hawliodd Davies dreuliau drwy ddefnyddio anfoneb ffug, er ei fod yn ymwybodol ei fod yn gamarweiniol.

Roedd yr ail gyhuddiad yn ymwneud 芒 chyflwyno gwybodaeth ffug a chamarweiniol ym mis Ebrill 2016.

Clywodd ynadon ei fod wedi creu dwy anfoneb ffug, un am 拢450 a'r llall am 拢250.

Roedd yr arian yn cael ei hawlio er mwyn talu am luniau a dodrefn ar gyfer swyddfa yn ei etholaeth.

Dywedodd Thomas Forster, ar ran ar amddiffyniad, fod yr achos yn enghraifft o flerwch ofnadwy wrth gadw cyfrifon ac mai Davies ei hun oedd yn gyfrifol.

Ychwanegodd nad oedd Davies wedi ei ysgogi gan "elw personol" ond fod y system hawlio treuliau yn anodd ei ddeall.

Dywedodd Mr Forster fod Davies wedi ad-dalu 拢450, a na chafodd yr ail hanfoneb ei anfon.

Clywodd y llys ei fod eisoes wedi dweud wrth lefarydd T欧'r Cyffredin, John Bercow o'i fwriad i bledio'n euog.