Diffyg arbenigwyr endometriosis Cymru yn 'annerbyniol'
- Cyhoeddwyd
Mae'r diffyg arbenigedd ar gyfer cyflwr mor gyffredin 芒 endometriosis yn annerbyniol, yn 么l menyw sy'n byw gyda'r cyflwr.
Daw'r neges wrth i orymdaith arbennig gael ei chynnal yn Llandudno ddydd Sadwrn i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr.
Mae endometriosis yn gyflwr sy'n effeithio ar tua un o bob 10 menyw yn fyd-eang. Mae'n gallu achosi poen difrifol, anffrwythlondeb, blinder cronig yn ogystal 芒 symptomau gwanychol eraill.
Dywedodd Llinos Blackwell, sy'n cymryd rhan yn y digwyddiad, bod y diffyg ymwybyddiaeth ac arbenigedd ym maes endometriosis "yn gwbl annerbyniol".
Dyma'r pedwerydd tro i ddigwyddiad o'r fath gael ei gynnal yng Nghymru, a'r chweched digwyddiad rhyngwladol.
Mae'r gorymdeithiau blaenorol wedi bod yng Nghaerdydd ac Abertawe, ond eleni bydd yr orymdaith yn Llandudno - y cyntaf yng ngogledd Cymru - yn digwydd law yn llaw 芒'r rhai yn y de.
'Tri arbenigwr yng Nghymru'
Yn 么l Ms Blackwell, 41, dim ond tri arbenigwr endometriosis sydd yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae pob un yng Nghaerdydd.
"I feddwl bod y cyflwr yr un mor gyffredin 芒 diabetes neu asthma mae cael cyn lleied 芒 thri arbenigwr yn y wlad yn gwbl annerbyniol," meddai.
Ychwanegodd ei bod wedi cymryd tair blynedd o'r tro cyntaf iddi fynd at feddyg teulu cyn derbyn diagnosis llawn.
"Es i ddim at y doctor nes 'mod i'n 28 oherwydd roeddwn i'n meddwl fod fy mhoenau yn 'normal' ac na ddyliwn i wneud ffys," meddai.
"Mae meddygon teulu yn gwneud eu gorau ond yn syml dydy'r arbenigedd ddim yno.
"Allwch chi ddychmygu os mai dim ond tri arbenigwr asthma oedd yn y wlad?"
Ychwanegodd trefnydd y digwyddiad yn Llandudno, Samantha Hickson ei bod hithau wedi ei chael yn anodd cael diagnosis a thriniaeth hefyd.
"Mae 'na gymaint o wybodaeth anghywir allan 'na," meddai.
"Yn anffodus, mae nifer o weithwyr iechyd proffesiynol sydd ddim 芒'r wybodaeth gywir 'chwaith."
Dywedodd ei bod yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn "codi ymwybyddiaeth a dangos cefnogaeth i'r merched yng Nghymru sydd yn yr un sefyllfa".
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.