Dirgelwch hen Feibl Cymraeg gafodd ei ganfod mewn sgip
- Cyhoeddwyd
Pwy sydd berchen ar yr hen Feibl Cymraeg yma gafodd ei ganfod mewn sgip yn ne Lloegr?
Daeth y Beibl i law David Green - sy'n medru rhywfaint o Gymraeg - yn 2011 trwy ffrind i'w dad-yng-nghyfraith, sydd o Dorset.
Mae bellach wedi rhannu lluniau o'r Beibl mewn ymgais i ddod o hyd i deulu'r perchennog gwreiddiol.
"Roedd gen i, o'r diwedd, yr awydd i aduno'r Beibl gyda'r teulu y mae'r hanes yma'n perthyn iddyn nhw," meddai.
Priodas yn 1901
Dyw tad-yng-nghyfraith Mr Green ddim yn cofio'n union le cafodd ei ddarganfod - dim ond ei fod yn Dorset.
Daeth Mr Green - sy'n fargyfreithiwr o Lundain ond gafodd ei addysgu yng ngogledd Cymru - o hyd i'r Beibl eto pan roedd yn glanhau'r t欧.
Does dim dyddiad cyhoeddi, ond mae 'na gofnod o briodas ym Mhen-y-bont sy'n dyddio 'n么l i 1901.
Ochr yn ochr 芒 darluniau addurnedig, mae'r Beibl yn cynnwys sgriblo a braslunio plant.
Os na fydd modd dod o hyd i unrhyw un sydd 芒 "chysylltiad teuluol go iawn" 芒'r Beibl, dywedodd Mr Green y byddai'n hapus i'w anfon at gymdeithas hanesyddol neu eglwys leol yn ei gartref gwreiddiol.
Ond dywedodd y byddai'n "cael pleser o aduno'r Beibl gyda'i deulu".