Rwy'n ddeurywiol... ac yn briod 芒 dynes
- Cyhoeddwyd
Mae Steffan Alun, y digrifwr o Abertawe, wedi sylweddoli rhywbeth sylfaenol amdano'i hun yn ddiweddar - ei fod yn ddeurywiol.
Ond ar 么l cyfnod o geisio rhoi ei deimladau o'r neilltu, mae bellach wedi dod i ddeall fod bod yn agored am eich hunaniaeth yn dod law-yn-llaw 芒 theimlad o hunan-falchder.
Ym mis Medi 2004, yn Neuadd Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth, mi gwrddais i 芒 myfyrwraig o Gasnewydd. Erbyn diwedd mis Tachwedd, roedden ni mewn perthynas. Prynon ni d欧 yn 2008, priodon ni yn 2011, ac eleni byddwn ni'n dathlu 15 mlynedd gyda'n gilydd.
Un peth arall: rwy'n ddeurywiol.
Hynny yw, rwy'n gallu ffans茂o bechgyn a merched (ac eraill - modern).
Ond mae 15 mlynedd yn amser hir. Ar 么l bod mewn perthynas ag un person - pa mor berthnasol yw'r ffaith y gallwn i - o dan amgylchiadau gwahanol - fod wedi bod mewn perthynas 芒 rhywun o'r un rhyw 芒 fi?
"Gwell peidio meddwl am y peth"
Am amser hir, teimlais ei bod hi'n well peidio meddwl am y peth, ac i beidio trafod y peth. Do'n i ddim yn gweld unrhyw fantais i'r peth. Pam peri gofid i'r teulu, yn enwedig perthnasau h欧n? Ac yn bwysicach na hynny, oedd hi'n deg i mi - dyn mewn perthynas 芒 dynes - honni fy mod mewn rhyw ffordd yn ran o'r gymuned LHDT (Lesbiaidd/Hoyw/Deurywiol/Trawsryweddol)?
O bryd i'w gilydd, dros y blynyddoedd, byddai'r pwnc yn codi. Rwy'n agored iawn gyda fy ngwraig, ac ry'n ni wedi trafod rhywioldeb yn agored iawn rhyngon ni'n dau. Ond peth gwahanol iawn yw bod mor agored 芒 hynny ag unrhyw un arall.
Ym mis Gorffennaf 2017, gwrandawais ar bodlediad gan Attitude, y cylchgrawn am fywyd hoyw. Do'n i ddim yn gwrando'n selog, ond roedd hon yn gyfres arbennig i ddathlu 50 mlynedd ers dadgriminaleiddio gwrywgydiaeth yn y DU.
Roedd pob pennod yn gyfweliad 芒 pherson hoyw nodedig, a'r bennod lawrlwythais i oedd y cyfweliad gyda'r ysgrifennwr teledu Russell T Davies.
Mae Davies yn ffigwr pwysig i fi. Rwy'n cofio fy mrawd a minnau'n cyffroi'n l芒n yn gwylio ei gyfres o Why Don't You yn y 90au, yn nh欧 Taid dros wyliau'r ysgol.
Rwy'n cofio'r cynnwrf pan ddaeth Queer As Folk i'r sgr卯n ym 1999 (a minnau'n gwylio'n dawel gyda'r sain ar y teledu mor isel 芒 phosib). Ac yna, ar ben popeth, yn dod 芒 fy hoff raglen yn y byd yn 么l yn 2005 - Doctor Who.
I mi, rhywbeth anhygoel am waith Davies yw'r ffaith ei fod yn hoffi cynrychioli Cymru.
Tair blynedd cyn y gyfres gomedi a roddodd Ynys y Barri, a Chymru, ar y map - Gavin & Stacey - ysgrifennodd y gyfres Mine All Mine, am deulu o'r Mwmbwls sy'n darganfod mai nhw sy'n berchen ar Abertawe i gyd. Hyd yn oed yn Doctor Who, byddai'r cymeriadau'n teithio nid yn unig i blanedau pell ac i bob cornel o'r byd, ond bob hyn a hyn i Gaerdydd!
Ry'n ni siaradwyr Cymraeg wedi'n sbwylio gan S4C - digonedd o raglenni yn cynrychioli'r Cymry. Ond y tu hwnt i hynny, ry'n ni'n dal yn brin iawn o ran cynrychiolaeth yn y cyfryngau Saesneg.
Dyna pam bod Davies (a fagwyd ar yr un stryd 芒 fi yn Abertawe) yn arwr i fi. A dyna pam wrandawais i ar ei gyfweliad.
Ac am y tro cyntaf erioed, wrth wrando ar y drafodaeth, sylweddolais i. Rwy'n DDEURYWIOL. Dim dwywaith amdani.
"Ddim yn ffitio'r stereoteip"
Cyn hyn, roedd gen i gasgliad helaeth o esgusodion - ffyrdd o ddarbwyllo fy hun nad o'n i wir yn ddeurywiol. Ddim yn ffitio'r stereoteip, neu ddim yn rhan o'r gymuned oni bai fy mod mewn perthynas 芒 dyn, neu ddim o reidrwydd yn hoffi'r syniad o berthynas rywiol hoyw fel sy'n cael ei bortreadu yn y cyfryngau.
Ond un ar y tro, cafodd unrhyw hanner dadl oedd yn fy mhen ei dileu a'i diddymu.
A rhaid dweud, panic oedd fy ymateb. Ceisio anwybyddu'r peth. Canolbwyntio ar fywyd, ac ar waith.
Ond fy ngwaith yw siarad. Rwy'n ddigrifwr. A rhywsut neu'i gilydd, bydd unrhywbeth sydd ar fy meddwl yn treiddio i'r gwaith.
Felly weithiau - ar ddiwrnod dewr, neu'n amlach na hynny yn ddamweiniol - bydden i'n cyfeirio at ddeurywioldeb ar y llwyfan.
Ac roedd yr ymateb yn anhygoel. O, byddai ambell un yn gwneud rhyw sylw cas ar ddiwedd sioe, ond rwy 'di hen arfer 芒 hynny fel Cymro Cymraeg sy'n trafod yr iaith ar lwyfan.
Pwysicach o lawer na hynny oedd cael pobl ddeurywiol yn siarad 芒 fi ar ddiwedd sioe, i ddiolch, neu i ddweud cymaint iddyn nhw fwynhau clywed safbwynt mor debyg i'w safbwynt eu hunain.
O dipyn i beth, dechreuais i sylweddoli bod llawer o bobl yn yr un sefyllfa 芒 fi. Mewn perthynas, ond yn ddeurywiol, a hynny'n dal i fod yn bwysig rywsut.
Ac wedi meddwl - wrth gwrs ei fod yn dal i fod yn bwysig. Rwy'n siaradwr Cymraeg, hyd yn oed pan rwy'n siarad Saesneg.
Yn y diwedd, dysgais i wers Russell T Davies. Mae gen i hawl i drafod fy hunaniaeth ar lwyfan. Ac mae gan bobl fel fi hawl i fwynhau adloniant yn trafod materion sy'n effeithio arnon ni.
Ddiwedd mis Awst, bydd fy ngwraig a minnau'n dathlu wyth mlynedd o briodas. A byddwn ni'n gwneud hynny yn nigwyddiad Pride Cymru yng Nghaerdydd.
Efallai o ddiddordeb: