Twyllwyr yn manteisio ar filiau treth newydd
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Fynwy yn rhybuddio pobl i fod ar eu gwyliadwraeth wedi honiadau fod twyllwyr, sy'n esgus eu bod yn gweithio i'r cyngor, yn targedu perchnogion tai sy'n derbyn biliau treth newydd.
Mae rhybudd penodol i bobl fod yn wyliadwrus os oes rhywun yn ffonio i gynnig ad-daliad.
Un sydd wedi ei thargedu yw Margaret Evans, 84 oed, a gais i roi ei manylion banc am bod ad-daliad bil treth yn ddyledus iddi.
Dywedodd: "Roedd y ddynes ar y ff么n yn hynod o gredadwy.
"Roeddwn yn falch pan glywais fod ad-daliad yn ddyledus i fi gan fy mod yn credu y byddai'r arian yn dod yn ddefnyddiol ond wedi iddi ofyn am fy manylion banc roeddwn i'n amheus a 'nes i ddim rhoi fy manylion ac yna mi roddodd y ff么n lawr."
'Cywilydd'
Ychwanegodd Mrs Evans ei bod yn cael nifer o alwadau ff么n.
"Fydden i'n hoffi gwybod sut mae pobl wedi cael fy manylion," meddai.
"Tybed faint o bobl eraill sydd wedi cael eu targedu? Dwi ddim am weld neb yn colli arian."
Ar hyn o bryd mae trethdalwyr ar draws Cymru yn derbyn biliau treth newydd ar ddechrau blwyddyn ariannol newydd.
Mae ofnau y bydd twyllwyr yn manteisio ar y newid yn y biliau.
Dywed Adran Safonau Masnach Cyngor Mynwy bod twyllwyr eisoes yn gwybod enw llawn a chyfeiriad y trethdalwr cyn ffonio.
Yr amcangyfrif yw mai dim ond 5% o'r bobl sy'n cael eu targedu sy'n cyfeirio'r mater at yr awdurdodau - a hynny oherwydd cywilydd.
Mae swyddogion yn ofni y bydd twyllwyr yn manteisio ar drethdalwyr wrth i gyfanswm blynyddol eu bil newid.
Yn 么l Gareth Walters, arweinydd t卯m Safonau Masnach Mynwy: "Yn aml grwpiau troseddu profiadol sy'n gwneud hyn - mae ganddynt wybodaeth a rhestri - yn aml rhestri o bobl sydd wedi dioddef twyll yn barod. Mae'r rhestri yma yn cael eu gwerthu i grwpiau troseddu eraill.
"Yn aml mae'r twyllwyr yn cyfeirio at yr hysbysebiad diweddar am y newid ym mil y dreth ac yn dweud wrth bobl bod eu cartrefi yn y band anghywir ac felly bod ad-daliad yn ddyledus."
Mae anogaeth ar i bobl gysylltu 芒'u cyngor os ydynt yn credu eu bod wedi'u targedu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2017