Cynhyrchwyr bwyd yn 'bryderus' am ansicrwydd Brexit
- Cyhoeddwyd
Ansicrwydd parhaol yngl欧n 芒 Brexit ydy'r "pryder mwyaf" i gynhyrchwyr bwyd yng Nghymru, yn 么l arbenigwr ar gyfraith masnach.
Dywedodd Dr Ludivine Petetin o Brifysgol Caerdydd fod busnesau llai yn cael trafferth paratoi ar gyfer bywyd ar 么l gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Roedd y sector fwyd werth 拢6.8bn i'r economi Gymreig yn 2018, gan gyflogi 217,000 o bobl.
Mae 大象传媒 Cymru wedi siarad 芒 nifer o gynhyrchwyr i weld sut maen nhw'n dygymod.
'Anodd ar y diawl'
Dywedodd John Jones, capten llong bysgota ym Mhorth Penrhyn ger Bangor, ei fod yn pryderu am effaith oedi posib ar ddyfodol y busnes.
Mae'r cwmni'n cynhaeafu 2,000 o dunelli o gregyn gleision o'r Fenai bob blwyddyn, gyda'r cyfan yn cael ei allforio i Ffrainc a'r Iseldiroedd o fewn oriau.
"'M'ond tua phum diwrnod o shelf-life sy' gan rhain o'r funud 'da ni'n pysgota nhw," meddai Mr Jones.
"Mae'r cwsmeriaid eisiau nhw yn y ffatri y diwrnod wedyn. Os oes 'na delay maen nhw'n dechrau marw.
"Os 'den ni'n colli 20 tunnell fyse fo'n gallu bod yn ddiwedd y cwmni jyst iawn."
Mae'r cwmni yn ystyried atal mordeithiau am o leiaf chwe mis tan y bydd sefyllfa Brexit yn fwy eglur.
Ychwanegodd Mr Jones: "Fel gweithwyr i'r cwmni mae o'n reit frightening i dd'eud y gwir, achos 'da ni ddim yn gwybod.
"Os oes yna no deal, mae'n bosib ella be' neith y cwmni ydy dweud 'os oes 'na ddim byd yn digwydd am chwe mis, does dim pwynt i ni dalu chi'.
"So ella 'sa ni allan o waith tra 'de ni'n aros i bethau troi rownd a symud ymlaen. Mae'n anodd ar y diawl ar y funud.
"Mae rhywbeth o no deal i fyny yn well i ni. Ond does 'na ddim byd gwell na lle ydan ni ar y funud."
Mae cwestiynau mawr am ddyfodol y sector cig oen wedi Brexit, ac os na fydd cytundeb, gallai'r UE osod tollau o 48% ar gig oen o Brydain.
Dywedodd Nick Fenwick o Undeb Amaethwyr Cymru bod colli marchnad a cwymp tebygol ym mhris 诺yn yn "bryder enfawr."
Ond 'codi bwganod' ydy adroddiadau y gallai anifeiliaid gael eu difa oherwydd bod gormodedd o 诺yn ym Mhrydain.
"Mae'r bygythiad yna mewn sefyllfa lle na fydd marchnad o gwbl i'r cynnyrch a bod 诺yn yn gorfod cael eu cadw yn 么l ar ffermydd ac mae'r ffermydd yna yn rhedeg allan o fwyd," meddai Mr Fenwick.
"Yn barod 'da ni wedi gwneud yn glir i'r llywodraethau y byddai angen rhyw fath o iawndal am y llanast fyddai'n bodoli... i wneud yn si诺r bod pobl yn medru bwydo eu hanifeiliaid."
Un sydd wedi penderfynu rhoi'r gorau i gynhyrchu cig oen ydy Huw Williams sy'n ffermio ar lethrau Bryniau Clwyd ger Rhuthun, Sir Ddinbych.
Fe ymgyrchodd dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016 ac ers hynny mae wedi penderfynu canolbwyntio ar gynhyrchu cig eidion.
"Oeddet ti'n gallu gweld, rhaid i ni arbenigo mewn rhywbeth. A nes i weld y cyfle i ddechrau magu Aberdeen Angus a chael premiwm. Dyna'r ffordd o'n i'n gallu gwneud bywoliaeth," meddai.
"'Da ni'n gosod dau le ar y fferm r诺an. 'Da ni wedi gweithio efo Farming Connect, 'da ni wedi testio tir, 'den ni wrthi r诺anyn gwneud cynllun i ail-hadu'r fferm i gyd mewn rotation, mae gen i agronomist yn dod yma bob mis i gael mwy o'r borfa."
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio gadael yr UE yn fuan: "Fyse'n neis os fyse rhywun yn gwrando ac yn gwneud y penderfyniad. Maen nhw wedi chwarae o gwmpas efo hwn, wedi mynd yn erbyn be' aru'r wlad, be' aru Cymru fotio - i adael yr European Union."
Arallgyfeirio
I baratoi ar gyfer cwymp posib yn y farchnad cig oen yn sgil Brexit, mae fferm Ystad Rhug yng Nghorwen, Sir Ddinbych, wedi dechrau magu ceirw.
Yn fferm organig, mae'n gwerthu nifer o gigoedd gwahanol gan eu hallforio i bedwar ban byd o dan eu brand eu hunain.
Mae hefyd yn gwerthu pob math o gynnyrch yn eu siop fferm a chaffis.
Dywedodd rheolwr y fferm, Gareth Jones: "'Dan ni'n cael ein hannog i arallgyfeirio ac mae'r ceirw yn enghraifft o rywbeth gwahanol.
"Y pwynt pwysig i ni ydy 'dan ni yn gwerthu lot o gig ceirw ar hyn o bryd felly mae'r farchnad yn barod amdano fo, mae'r galw yno."
Mae'r fferm hefyd yn ystyried arallgyfeirio i faes cynnyrch harddwch a chosmetig.
Gallai hyn olygu cynhaeafu cynnyrch gwyllt fel perlysiau ac aeron oddi ar yst芒d yn ogystal 芒 thyfu mwy o gnydau fel ceirch a rhai cnydau newydd.
"Mae o'n rhywbeth arall fydd genno' ni i wneud elw," meddai Mr Jones.
"Mae pob dim i fyny yn yr awyr. Dwi'n meddwl mai ansicrwydd ydy'r peth sy'n anodd a dwi'n meddwl mai dyna sy'n brifo ar hyn o bryd... does neb yn gwybod lle 'dan ni'n mynd."
'Cyfle gwych'
Hyd yn oed os nad ydy'r DU yn gadael yr UE heb gytundeb, mae Dr Petitin yn rhybuddio y gallai cwmn茂au wynebu blynyddoedd o ansicrwydd pellach wrth i gytundebau masnach hirdymor gael eu llunio.
Ond un sgil effaith cadarnhaol o unrhyw fath o Brexit, meddai, fyddai twf posib yng ngwerthiant bwyd a diod lleol yng Nghymru.
Ychwanegodd: "Mae'n gyfle gwych i ddod o hyd i gynhwysion a chynnyrch yn fwy lleol a chenedlaethol nag oedden ni'n arfer gwneud.
"Mae hyn yn rhywbeth y dylen ni ganolbwyntio arno - beth allwn ni ei wneud, beth all cwmn茂au a busnesau ei wneud i ddod o hyd i fwydydd mwy lleol a gwneud yn si诺r bod yr economi yn dal i dyfu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd5 Medi 2018