´óÏó´«Ã½

Pwerau Cymru ar drethi yn dod i rym

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Beth mae'r newid yn ei olygu i Gymru? Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru sy'n esbonio.

Fe allai pobl yng Nghymru fod yn talu gwahanol raddau o dreth incwm i bobl yng ngweddill Prydain o dan ddeddfau sy'n dod i rym fore Sadwrn.

O 6 Ebrill fe fydd Llywodraeth Cymru yn gallu amrywio'r swm ym mhob band treth incwm o hyd at 10 ceiniog ym mhob £1, wrth i bwerau gael eu datganoli i Gymru.

Mae'n golygu y bydd rhywfaint o'r arian sy'n cael ei godi gan dreth incwm yng Nghymru yn aros yng Nghymru i ariannu gwasanaethau.

Ar hyn o bryd, mae holl drethdalwyr Cymru yn talu treth incwm i Lywodraeth y DU.

Arian ar gyfer gwasanaethau

Ni fydd unrhyw newid i'r lefelau treth incwm ym mlwyddyn ariannol 2019-20, a dywedodd y llywodraeth na fyddai'n eu newid cyn etholiad nesaf y Cynulliad yn 2021.

Fodd bynnag mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi dweud y gallai amgylchiadau newid cyn hynny fydd yn ei orfodi i ailedrych ar y sefyllfa.

Bydd y lwfans personol, sef y swm y mae pobl yn ei ennill cyn iddyn nhw ddechrau talu treth, yn ogystal â'r raddfa uwch o drethi, yn aros yr un peth ag yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Byddai codi 1c yn ychwanegol ar y raddfa sail yn codi £200m yn ychwanegol bob blwyddyn i Lywodraeth Cymru.

Ffynhonnell y llun, Y Cynulliad Cenedlaethol

Ym maniffesto Llafur Cymru yn etholiad 2016, dywedodd y blaid na fyddan nhw'n codi'r gyfradd yn ystod y tymor Cynulliad hwn.

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi galw am godi 1c ar y raddfa sail er mwyn ei wario ar hybu addysg.

Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r arian sy'n cael ei godi gan y cyfraddau treth incwm Cymreig i ariannu gwasanaethau cyhoeddus fel y Gwasanaeth Iechyd ac ysgolion.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans: "Rydyn ni wedi cyrraedd carreg filltir bwysig arall yn hanes datganoli trethi.

"Bydd tua £5bn o refeniw trethi lleol a datganoledig nawr yn cael ei godi yng Nghymru ac yn aros yng Nghymru."

Bydd y pwerau newydd hefyd yn caniatáu i'r llywodraeth fenthyg £1bn yn syth gan y Trysorlys fel cyfalaf ar gyfer cynlluniau isadeiledd ac adeiladu.