大象传媒

Nofio yn y m么r yn talu ar ei ganfed i ddioddefwr meigryn

  • Cyhoeddwyd
Beth yn y m么rFfynhonnell y llun, @vitaminseafilm
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Beth Francis yn cofnodi ei phrofiadau ar-lein wrth geisio mynd i'r afael 芒'i chyflwr, boed yn rhai da neu ddrwg

Mae dynes o Ynys M么n sy'n dioddef gyda'r meigryn wedi cwblhau her i'w hun i nofio yn y m么r 100 o weithiau mewn ymgais i weld a fyddai ei symptomau'n gwella.

Ers dechau nofio yn y m么r y llynedd, mae Beth Francis yn dweud ei bod yn cael cur pen difrifol yn llai aml - 15 o weithiau bob mis, yn hytrach na 25.

Dydy hi ddim gant y cant yn sicr ai bod yn y d诺r yw'r ffactor allweddol, yn hytrach nag ymarfer corff yn gyffredinol a bod yn yr awyr agored.

Ond mae hi'n bwriadu parhau i nofio yn y m么r ac wneud hynny am y canfed tro yn Llanddona brynhawn Sul roedd yna wahoddiad i bobl i ymuno 芒 hi a'i chymar, Andrew Clark - cynhyrchydd filmiau sydd wedi ei helpu i gofnodi ei phrofiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Beth Francis ac Andrew Clark ar draeth Llanddona ddydd Sul

Dywedodd brynhawn Sul bod yr ymateb i'w hymrechion gan bobl fu'n ei dilyn ar-lein yn "anhygoel" a bod hi ac Andrew eisiau nodi'r garreg filltir gyda "dathliad yn cynnwys pawb arall hefyd".

Roedd dioddefwyr eraill wedi ymuno 芒'r cwpwl yn y fan lle wnaethon nhw nofio am y tro cyntaf yn Hydref 2017.

Mae Beth - biolegydd morol 27 oed sy'n cael meigryn ers yn naw oed - yn parhau i gymryd meddyginiaeth a gweld arbenigwr, ond mae'n dweud bod mynd i'r m么r yn fuan wedi i'r symptomau ddechrau yn helpu iddyn nhw beidio gwaethygu gymaint.

Roedd y cyflwr - sy'n effeithio ar un o bob saith person ym Mhrydain - yn achosi gymaint o boen iddi erbyn 2017, bu'n rhaid iddi gymryd seibiant salwch yn ystod blwyddyn gyntaf ei doethuriaeth Bywydeg Morol ym Mhrifysgol Bangor.

Ffynhonnell y llun, @vitaminseafilm
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ffilmiau'r cwpwl yn cofnodi'r ymdrech i leddfu symptomau meigryn Beth

Mae'n cyfaddef ei bod "ar ben ei thennyn" ac roedd y symptomau'n cynnwys tinnitus, nausea, poenau yn y bol a diffyg teimlad ar un ochor o'i chorff.

Ar 么l darllen gwaith ymchwil am fanteision posib ymarfer yn yr awyr agored, fe dechreuodd nofio yn y m么r fel rhan o brosiect y cwpwl, .

Mae'r prosiect wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol, gan ennyn diddordeb pobl eraill sy'n dioddef gyda'r meigryn.

Ffynhonnell y llun, @vitaminseafilm
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y canfed nofiad - fel yr un cyntaf un - yn Llanddona

"Mae'n ymddangos bod y peth wedi cyffwrdd yn llawer o bobl," meddai Beth. "Mae'r siwrne wedi bod yn yn syfrdanol."

Ychwanegodd bod y brifysgol yn chwilio am bobl i gymryd rhan mewn prosiect sy'n cael ei sefydlu er mwyn gweld i ba raddau mae cawodydd oer yn helpu lleddfu meigryn.

Dywed llefarydd ar ran yr elusen Migraine Trust bod yna dystiolaeth anecdotaidd bod ymarfer corff a chawodydd oer yn helpu rhai dioddefwyr, er bod ymarfer corff yn gallu achosi meigryn i eraill.