大象传媒

Diffyg brandio Cymreig maes awyr Caerdydd yn 'siomedig'

  • Cyhoeddwyd
WH Smith maes awyr CaerdyddFfynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Jack Henry yn feirniadol ar Twitter o'r diffyg cynnyrch Cymreig yn siop WH Smith

Mae angen i Faes Awyr Caerdydd wneud mwy o ymdrech i hybu a chodi ymwybyddiaeth o gynnyrch Cymreig.

Daw'r galwadau yn sgil neges ar Twitter yn beirniadu faint o frandio Prydeinig oedd yn siopau'r maes awyr i gymharu 芒 brandio Cymreig.

Yn 么l siop WH Smith mae'r llun gafodd ei rannu yn gamarweiniol, a bod nwyddau Cymreig eu naws ar gael i gwsmeriaid.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r siopau ym Maes Awyr Caerdydd eisoes yn cynnig amrywiol gynnyrch o Gymru, ac rydyn ni'n gweithio gyda'r maes awyr a manwerthwyr i ehangu'r dewis o fwyd a diod o Gymru sy'n cael eu cynnig."

Ymysg y rhai i leisio eu hanfodlonrwydd ar raglen Taro'r Post ddydd Llun oedd Deiniol Carter, oedd o'r farn bod y diffyg brandio Cymreig yn y siop yn "syndod ac yn "siomedig".

Ychwanegodd Mr Carter ei fod yn deall pam bod brandio Prydeinig mewn maes awyr rhyngwladol fel hyn, ond bod angen mwy o bwyslais ar y Ddraig Goch yng Nghymru.

Dywedodd Jack Henry, a gyhoeddodd y llun ar twitter, nad oedd unrhywbeth yn dathlu Cymru na chynnyrch Cymreig yn cael ei arddangos.

Yn 么l y Maes Awyr, rhai o'r cynhyrchion mwyaf poblogaidd yn eu siopau ydy chwisgi Penderyn, aur Clogau, siocled Wickedly Welsh a chynhyrchion Undeb Rygbi Cymru.

Ffynhonnell y llun, WH Smith
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth WH Smith ryddhau llun arall o'r siop gan fynnu bod yno gynnyrch Cymraeg yn cael ei arddangos

Dywedodd Rhiannon Jenkins, llefarydd ar ran Maes Awyr Caerdydd eu bod nhw'n "falch iawn i gynnig dewis o gynhyrchion Cymraeg o fewn ein siop WH Smith ac o fewn ein Siopa Di-doll a Di-dreth."

"Rydym yn faes awyr cenedlaethol, maes awyr y brifddinas ond rydyn ni hefyd yn borth allweddol i fewn i'r Deyrnas Unedig, felly mae hi'n bwysig i gynnig cwsmeriaid rhyngwladol dewis.

"Yn fwy ac yn fwy rydyn ni'n gweld cwsmeriaid yn defnyddio'r maes awyr i deithio o wledydd megis Awstralia, Tsiena a Japan, ac mae'n nhw'n gofyn am ddewis Prydeinig yn ogystal 芒 dewis Cymreig cyn iddyn nhw deithio."

Ychwanegodd Ms Jenkins: "Hoffwn ni arddangos mwy o gynhyrchion Cymraeg ac rydyn ni'n gweithio gyda'n manwerthwyr a phartneriaid arlwyo i gynyddu'r dewis."