Comisiynydd newydd y Gymraeg eisiau 'newid cyfeiriad'
- Cyhoeddwyd
Mae angen "newid cyfeiriad" a chreu mwy o gyfleoedd i bobl sydd wedi dysgu'r Gymraeg i'w defnyddio ar lawr gwlad, yn 么l comisiynydd newydd y Gymraeg.
Mewn cyfweliad 芒 rhaglen Post Cyntaf 大象传媒 Radio Cymru dywedodd Aled Roberts hefyd bod angen denu mwy o athrawon i ddysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg os am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.
Dywedodd bod llenwi swyddi athrawon Cymraeg eisoes yn her - heb s么n os fydd cynnydd yn nifer yr ysgolion Cymraeg yn y dyfodol.
Bu'n s么n hefyd am ei fagwraeth yn ardal Wrecsam, gan ddweud mai Saesneg yr oedd yn ei siarad gyda'i ffrindiau am flynyddoedd, er ei fod wedi'i fagu mewn teulu Cymraeg yn Rhosllannerchrugog.
'Gwneud defnydd' o'r iaith
Yn siarad ar ddechrau ei gyfnod fel comisiynydd, dywedodd Mr Roberts bod angen newid cyfeiriad a sicrhau bod gan bobl gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith, neu fod perygl iddi beidio cael ei gweld fel iaith fyw.
"Heblaw bod ni'n newid cyfeiriad a heblaw bod ni'n llwyddo llawer iawn gwell o ran yr holl bobl ifanc yma sy'n dysgu Cymraeg, i greu sefyllfa lle maen nhw yn defnyddio'r Gymraeg bob dydd - fydd hi'n debyg iawn i nifer fawr o wledydd lle mae iaith wedi cael statws swyddogol ond eto sydd ddim yn iaith fyw ar lawr gwlad," meddai.
"Mae angen creu cyfleoedd o fewn y gweithle, ar 么l hynny bod nhw'n ddigon hyderus i ddefnyddio'r iaith, achos dyna ran o'r broblem ar hyn o bryd - bod pobl yn colli hyder.
"Maen nhw'n dod i sefyllfa lle maen nhw'n teimlo nad ydy eu Cymraeg yn ddigon da - ac o achos hynny'n troi i'r Saesneg - ac mae'n rhaid i ni newid hynny.
"Dwi'n meddwl bod 'na le i ni greu sefyllfa lle mae cyfle i bobl adael yr ysgol a gwneud defnydd o'u hiaith, ond dydy hynny ddim am ddigwydd dros nos."
Dywedodd Mr Roberts ei fod o ei hun yn arfer troi at y Saesneg pan yn iau, er iddo gael ei fagu'n Gymraeg.
"Fe ges i'n magu ar aelwyd Gymraeg ei hiaith yn Rhos; ond Saesneg oedd iaith fy addysg," meddai.
"Er bod fy nghriw ffrindiau yn gallu siarad Cymraeg, Saesneg oedden ni'n ei siarad efo'n gilydd.
"Rydw i'n gwybod nad fi a fy ffrindiau oedd yr unig rai oedd ddim yn gweld yr iaith fel rhywbeth i'w siarad efo'n gilydd; a bod yr arfer o droi i'r Saesneg hyd yn oed yn fwy cyffredin y dyddiau yma."
Pwy ydy Aled Roberts?
Cafodd Aled Roberts ei eni a'i fagu yn Rhosllannerchrugog ger Wrecsam cyn mynd ymlaen i astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Aeth yn 么l i'w ardal enedigol ar 么l graddio, gan briodi a magu dau fab yn yr ardal.
Gweithiodd fel cyfreithiwr yn Wrecsam, Rhuthun a'r Wyddgrug, cyn cynrychioli ardal Rhos a'r Ponciau ar Gyngor Wrecsam o 1991 tan 2012.
Rhoddodd y gorau i'w swydd fel cyfreithiwr ar 么l cael ei ethol yn arweinydd Cyngor Wrecsam yn 2005, a bu'n arwain y cyngor nes iddo gael ei ethol yn Aelod Cynulliad i'r Democratiaid Rhyddfrydol dros ranbarth gogledd Cymru yn 2011.
Ar 么l colli ei sedd yn 2016 mae wedi bod yn cynnal adolygiad annibynnol o gynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg ar ran Llywodraeth Cymru.
'Cam gwag'
Dywedodd Mr Roberts hefyd mai "cam gwag" yw agor ysgolion Cymraeg os does ddim athrawon iaith Gymraeg i'w llenwi.
"Beth sy'n glir i mi ydy bod 'na lawer o awydd i ni gynyddu canran y plant sy'n derbyn addysg Gymraeg, ond y broblem fwya' sy'n ein hwynebu ni ydy nifer yr athrawon fydd eu hangen," meddai.
"Dwi'n gwybod pa mor anodd ydy hi yn y gogledd-ddwyrain i ddenu athrawon er mwyn llenwi swyddi hyd yn oed o fewn yr ysgolion cyfrwng Cymraeg sy'n bodoli ar hyn o bryd.
"Ac mae hynny heb s么n am unrhyw gynnydd o ran nifer yr ysgolion Cymraeg.
"Y cwestiwn i mi ydy be' yn union mae'r llywodraeth a'r cyngor gweithlu addysg yn ei wneud o ran denu mwy o athrawon i lenwi'r swyddi yma?"
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cynlluniau i gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys cymhelliant ariannol o 拢25,000, wedi eu gweithredu.
Ychwanegodd y llefarydd bod "hyfforddiant i athrawon yn fwy hygyrch" gyda chynllun i alluogi pobl i barhau i weithio wrth astudio i fod yn athro yn dod i rym y flwyddyn nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2019